Ewch i’r prif gynnwys

Carbonara creaduriaid - y Deyrnas Unedig yn edrych ar bryfed fel bwyd

27 Mehefin 2018

Gan fod y farchnad ddomestig ar gyfer pryfed bwytadwy yn cynyddu, beth yw profiadau’r ffermwyr sy’n bwydo’r duedd hon?

Mae Dr Christopher Bear, o ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, wedi treulio blwyddyn o absenoldeb ymchwil yn archwilio cynhyrchu pryfed bwytadwy yn y Deyrnas Unedig, er mwyn deall yn well brofiadau ac arferion y ffermwyr sy’n rhan o’r diwydiant hwn.

Fel mae Dr Bear yn esbonio: "Er bod tueddiad diweddar tuag at fwyd seiliedig ar bryfed yma yn y Deyrnas Unedig – a bod defnyddwyr yn awyddus i brofi bariau protein pryfed neu 'fyrgyrs bygs', mae’r cynhyrchion hyn wedi tueddu i ddibynnu ar bryfed a fewnforiwyd. Fodd bynnag, mae bron dwsin o ffermydd pryfed bellach wedi'u sefydlu i gyflenwi'r farchnad ddomestig ac ymateb i'r diddordeb hwn sy’n datblygu."

Mae pryfed yn ffenomen gymharol newydd i'r diet Prydeinig, ac eto maent yn cael eu bwyta’n rheolaidd gan ryw 2biliwn o bobl ar draws y byd, gyda’r crynodiad uchaf yn Asia, Affrica a De America. Mae adroddiad gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig hefyd wedi tynnu sylw at y cyfraniad posibl y gallai pryfed fel bwyd ei wneud o ran diogelwch bwyd byd-eang, fel ffynhonnell amgen a chynaliadwy o brotein, o’u cymharu â da byw confensiynol.

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn dadlau bod sawl mantais i ddefnyddio pryfed bwytadwy fel bwyd a phorthiant – yn ddietegol ac yn amgylcheddol. Mae pryfed bwytadwy yn cynnig protein, fitaminau ac asidau amino o safon uchel ar gyfer bodau dynol, maent hefyd yn gofyn am gryn dipyn yn llai o borthiant ac yn allyrru llai o nwyon tŷ gwydr na da byw.

Mae gwaith arloesol Dr Bear ym maes pryfed fel bwyd wedi arwain at ei benodi’n Gyfarwyddwr ar y Woven Network. Nod y rhwydwaith hwnnw yw dod ag entrepreneuriaid, ymchwilwyr ac eraill sy'n gweithio ar rôl pryfed yn y gadwyn fwyd ddynol at ei gilydd, yn y Deyrnas Unedig ac mewn mannau eraill. Mae ei waith mwyaf diweddar wedi dangos bod

Ychwanegodd: "Mae materion diogelwch bwyd byd-eang yn destun pryder gwirioneddol a chyson i lunwyr polisi a llywodraethau. Mae modd cael hyd i atebion cynaliadwy, ond mae hynny’n galw am ffyrdd newydd o feddwl, bod yn agored i fabwysiadu arferion o ddiwylliannau a gwledydd eraill ac arbrofi, o fewn y gadwyn fwyd a'r gymdeithas."

"Mae’r sector ffermio pryfed bwytadwy yn y Deyrnas Unedig yn fach, heb ond ychydig o arbenigedd sefydledig i fanteisio arno ar hyn o bryd, ac mae’r fframweithiau rheoleiddio y mae’n gweithio oddi mewn iddynt yn aneglur. Fodd bynnag, o’i ddatblygu gallai fod yn elfen allweddol ar gyfer ein diogelwch bwyd yn y dyfodol."

Dr Christopher Bear Reader in Human Geography, Deputy Head of School

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.