Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth Bocs Sebon 2018

25 Mehefin 2018

Dr Emma Richards at Soapbox Science 2018

Cymerodd Dr Emma Richards a'r myfyriwr PhD Katherine Armstrong ran yn nigwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon 2018 yng nghanol dinas Caerdydd.

Cyflwynodd Dr Richards ei hymchwil ynghylch defnyddio nanoronynnau ocsid metel ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau, gan gynnwys pigmentau a chatalyddion ar gyfer adfer amgylcheddol rhag llygryddion gwenwynig yn yr aer.

Mae Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn blatfform allgymorth cyhoeddus newydd sy'n hyrwyddo gweithgareddau ymchwil gwyddonwyr benywaidd. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim Gwyddoniaeth Bocs Sebon ledled y DU. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghaerdydd eleni dan y Cerflun Alliance y tu allan i ganolfan siopa Dewi Sant a Llyfrgell Canol Caerdydd ar 2 Gorffennaf 2018. Aeth cyfanswm o 12 o wyddonwyr benywaidd ati i fynd ar eu bocs sebon i addysgu, egluro, ac ysbrydoli'r cyhoedd am eu darganfyddiadau diweddaraf.

Dywedodd Dr Richards: "Un o uchafbwyntiau'r dydd, yn enwedig o ystyried y tywydd hyfryd, oedd dangos sut mae titaniwm deuocsid yn cael ei ddefnyddio mewn eli haul, gan ddefnyddio pennau inc anweledig.  Roedd yn wych gweld pobl o bob oedran yn cymryd rhan – mae digwyddiadau fel Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn gyfle gwych i academyddion ryngweithio â'r cyhoedd a sôn am ein gwyddoniaeth, ac roedd yn fraint bod yn rhan ohono."

Yn ystod y prynhawn fe wnaeth dros 11,000 mil o ymwelwyr ymgysylltu â'r digwyddiad gwyddoniaeth, a dywedodd un ymwelydd "Dwi wedi dysgu cymaint heddiw, dwi mor falch fy mod i wedi gweld y dorf a dod draw i wrando."

Rhannu’r stori hon