Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn ymuno a’r Cyflymydd Arloesedd £33m

18 Mehefin 2018

Medaphor manikin

Bydd Prifysgol Caerdydd yn helpu i droi £33m o arian ychwanegol yn wasanaethau a chynhyrchion gofal iechyd arloesol o Gymru.

Gallai’r hwb ariannol hwn, a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru, wella gofal iechyd, tyfu’r economi a chreu swyddi o ansawdd uchel.

Daw’r rhan fwyaf o’r arian (£24m) oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru ar y cyd.

Dros gyfnod o dair blynedd, bydd yn cefnogi ACCELERATE – Cyflymydd Arloesedd a Thechnoleg Iechyd Cymru – i ddod ag arbenigedd clinigol, academaidd a busnes ynghyd, er mwyn datblygu a defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd o fewn system iechyd a gofal Cymru.

Caiff £9m pellach o arian gan Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio i greu canolfannau arloesedd iechyd ychwanegol ledled Cymru.

Amcan craidd y canolfannau fydd datblygu technoleg iechyd arloesol er mwyn gwella’r broses o atal, trin a rheoli cyflyrau cronig tymor hir a manteisio ar dechnolegau newydd, a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Cyhoeddwyd yr arian ar y cyd heddiw (13 Mehefin) gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ac Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Arweinir ACCELERATE gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Bydd yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflymu’r broses o drosi syniadau’n gynnyrch a gwasanaethau technoleg newydd yn ogystal â chynyddu’r broses o ddefnyddio a mabwysiadu cynnyrch a gwasanaethau technolegol newydd ym maes iechyd a gofal, gan greu gwerth economaidd fydd yn para yng Nghymru.

Wrth groesawu ACCELERATE, dywedodd yr Athro Ian Weeks, Deon Arloesedd Clinigol Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae’r angen am bartneriaethau ar y cyd rhwng prifysgolion, y gwasanaeth iechyd a diwydiant yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel rhywbeth a allai drawsnewid y sefyllfa o ran creu gwelliannau ym maes iechyd a gofal y boblogaeth, yn ogystal â chynnig cyfle ar gyfer datblygiad economaidd.

Yn achos y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, bydd sefydliadau’n gallu gwneud cais am arian o’r gronfa gwerth £9m er mwyn datblygu canolfannau arloesedd iechyd, yn debyg i Ganolfan Arloesedd Clwyfau Cymru a’r Ganolfan Arloesedd Anadliadol.

Bydd y canolfannau hyn yn dod ag arbenigwyr ym maes iechyd a busnes ynghyd i ddatblygu, profi a gweithredu syniadau newydd ar gyfer atal a gwella cyflyrau cronig yn ogystal â thechnolegau newydd sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r cyllid ar sail ad-dalu benthyciad a disgwylir y bydd y canolfannau’n ariannu eu hunain drwy gynhyrchu elw a chael arian o ffynonellau eraill.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Mae datblygu ffyrdd arloesol newydd o atal, trin a gwella salwch ac afiechyd yn rhan hanfodol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y GIG yng Nghymru. Bydd rhaglen ACCELERATE a chronfa canolfannau arloesedd iechyd newydd yn helpu i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau iechyd yn gyflymach, i’w defnyddio yn ein GIG ac ar draws y byd.”

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae ein sector gwyddorau bywyd yn ffynnu ac yn werth tua £2 biliwn i economi Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i adeiladu ar yr arbenigedd a’r talent yr ydym eisoes wedi'u creu yn y sector hwn. Yn y tymor hir, rwy’n disgwyl gweld i’r buddsoddiad hwn arwain at greu cannoedd o swyddi tra medrus, a chefnogi twf economaidd.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.