Ewch i’r prif gynnwys

Canmoliaeth i fyfyrwyr am eu hymrwymiad i ieithoedd

15 Mehefin 2018

Languages for All students celebrating their success

Mae Ieithoedd i Bawb ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ar raglen radd ddysgu iaith am ddim.

Mae miloedd wedi elwa ar y rhaglen (a ddechreuodd yn 2014), a'r wythnos ddiwethaf, am y tro cyntaf, cafodd grŵp dethol o ddysgwyr iaith eu gwobrwyo am eu hymrwymiad mewn seremoni wobrwyo arbennig.

Cafodd 30 o fyfyrwyr wobr Cyflawniad Rhagorol Ieithoedd i Bawb, ar ôl cwblhau pum modiwl neu fwy yn yr un iaith. Dewisodd y rhan fwyaf o fyfyrwyr iaith nad oeddent wedi ei hastudio o'r blaen, ac o blith y naw iaith y mae'r rhaglen yn eu cynnig, dewiswyd Sbaeneg, Almaeneg, Japaneeg, Ffrangeg a Tsieinëeg Mandarin.

Llwyddodd nifer o fyfyrwyr i gyrraedd lefel canolradd-uwch lle maent yn ddigon hyderus i gael sgwrs heb baratoi ymlaen llaw ynglŷn â phynciau cyfarwydd, ac yn gallu ymdrin â'r rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyffredin sy'n codi wrth deithio.

Dywedodd Dr Catherine Chabert, Cyfarwyddwr Ieithoedd i Bawb, "Roeddem am roi rhywbeth yn ôl i fyfyrwyr sydd wedi bod yn benderfynol ac wedi astudio iaith ochr yn ochr â'u hastudiaethau drwy gydol eu gradd yng Nghaerdydd. Mae'r rhaglen wedi'i dylunio i roi'r sgiliau iaith sydd eu hangen ar fyfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu nodau a gwella eu rhagolygon gyrfa."

Daeth yr enillwyr o amrywiaeth o feysydd ar draws y Brifysgol (roedd 18 o Ysgolion wedi eu cynrychioli) ac maent yn gymysgedd o israddedigion ac ôl-raddedigion. Fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr Ieithoedd i Bawb, roeddent yn mynd i'r dosbarthiadau am amrywiaeth o resymau.

Dywedodd y meddyg Natasha Harley ei bod yn bwriadu gwneud ei lleoliad dewisol meddygol yn Ecwador, rhywbeth na fydddai "erioed wedi ystyried yn bosibl" dair blynedd yn ôl. Byddai'r myfyriwr y Gyfraith Lim Jian Hong wrth ei fodd yn gwirfoddoli yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Tokyo, mae'r Archaeolegydd Tobias Heal wedi gwneud cais am swydd addysgu yn Tsieina, ac mae'r myfyriwrPhD Daearyddiaeth a Chynllunio Owain Hanmer yn bwriadu defnyddio ei Sbaeneg wrth wneud ymchwil yn America Ladin. Wrth sôn am ei gwrs Ieithoedd i Bawb, dywedodd Owain "Rwy'n credu y bydd y cwrs yn agor llu o gyfleoedd i weithio a theithio yn y dyfodol, felly rwy'n gyffrous i weld sut bydd pethau'n mynd."

Dywedodd Dr Siân Edwards, Cydlynydd Academaidd: Mae cyrhaeddiad y myfyrwyr yma’n dangos gwerth dysgu ieithoedd ac yn dystiolaeth o’r profiad rhywngwladol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Rhannu’r stori hon