Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

12 Mehefin 2018

Haley Gomez - Birthday Honors
Professor Haley Gomez, Head of Public Engagement, School of Physics and Astronomy

Mae aelodau o gymuned y Brifysgol wedi'u hanrhydeddu am eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Enillodd yr Athro Billie Hunter, Athro Bydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, CBE am wasanaethau i fydwreigiaeth ac addysg bydwreigiaeth yn y DU ac Ewrop.

Mae’r Athro Hunter yn fydwraig, yn addysgwr ac yn ymchwilydd sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ac sydd wedi gwneud llawer o gyfraniadau blaenllaw at ddatblygu diwylliant bydwreigiaeth a gofal mamolaeth, yn y DU ac yn rhyngwladol. Fel yr Athro Bydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd cyntaf, mae hi wedi cael ei chydnabod yn flaenorol am ei harweinyddiaeth ragorol a'i chyfraniad at gyfoethogi ansawdd gofal mamau a babanod drwy hyrwyddo gofal ar gyfer y bydwragedd.

Ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Cydweithio Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Addysg a Datblygiad Bydwreigiaeth yn Ewrop, ac mae’r Athro Hunter yn arwain prosiect y Ganolfan i gyhoeddi adnodd rhyngweithiol ar-lein y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu a chynnal addysg bydwreigiaeth ledled y byd.

Enillodd yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius mewn Cemeg a Chyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd y Brifysgol, CBE am wasanaethau i gemeg ac arloesedd.

Ymhlith ei lwyddiannau niferus, darganfyddiad mwyaf gwerthfawr yr Athro Hutchings yw bod gan y metel gwerthfawr aur allu rhyfeddol i gataleiddio adweithiau'n llawer mwy effeithlon nag eraill a ddefnyddir mewn diwydiant.

O ganlyniad i’w waith arloesol, mae catalydd aur bellach yn cael ei gynhyrchu mewn ffatri bwrpasol yn Tsieina gan y cwmni cemegau byd-eang Johnson Matthey er mwyn cataleiddio’r broses o gynhyrchu finyl clorid – y tro cyntaf mewn dros 50 o flynyddoedd y cyflwynwyd newid llwyr mewn ffurfiant catalydd i gynhyrchu cemegyn nwyddau.

Hefyd yn cael ei chydnabod yr oedd yr Athro Haley Gomez, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, a enillodd MBE am wasanaethau i astroffiseg, seryddiaeth a gweithgareddau allgymorth.

Mae’r Athro Gomez wedi ymroi ei gwaith i ddeall ffurfiant ac esblygiad llwch cosmig, yn arbennig lle caiff ei ffurfio. Mae hi wedi chwarae rôl allweddol o ran dangos y caiff llwch ei ffurfio mewn uwchnofâu a hi oedd y cyntaf i weld, gyda Herschel, ffilamentau cain o lwch oer yn tywynnu yn yr enwog Nifwl y Cranc (Crab Nebula).

Fel Pennaeth Ymgysylltu Cyhoeddus yr Ysgol, mae’r Athro Gomez wedi bod yn allweddol yn ysbrydoli pobl ifanc i mewn i wyddoniaeth a thechnoleg.  Mae hi wedi cynnal dau brosiect allgymorth mawr – Ysbrydoli Addysg Wyddonol (Inspiring Science Education), sy'n amlygu ac yn hyrwyddo arferion gorau mewn addysg STEM mewn ysgolion ar draws Ewrop, a'r Bydysawd mewn Ystafell Ddosbarth (Universe in a classroom), sy'n darparu adnoddau seryddiaeth arloesol i ysgolion cynradd ac yn hyfforddi mwy na 100 o athrawon i gyflwyno gwyddoniaeth i fwy na 6,000 o blant mewn ffyrdd modern a diddorol.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Rydym ni'n falch iawn i weld gwaith ac ymroddiad ein staff a'n cyn-fyfyrwyr yn cae lei gydnabod. Llongyfarchiadau mawr i holl aelodau cymuned y Brifysgol sydd wedi derbyn anrhydedd."

Cafodd y Cymrawd Anrhydeddus Robert Wainwright, cyn-gyfarwyddwr Europol, ei gydnabod hefyd drwy gael ei urddo’n farchog am wasanaethau i blismona a diogelwch.

Rhannu’r stori hon