Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser Cymru

11 Mehefin 2018

Headshot of Sarah Koushyar

Mae Dr Sarah Koushyar o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd wedi cael ei dewis i fod yn rhan o raglen addysg arobryn sy'n helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser.

Mae Sarah wedi cael ei dewis i fod yn rhan o Brilliant Club – prosiect ar lawr gwlad sydd â'r nod o wella mynediad at waith yn y Brifysgol i blant o ganol dinasoedd a phlant o gefndir difreintiedig.

Mae’r Brilliant Club yn elusen arobryn sydd â'r nod o gynyddu nifer y disgyblion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n symud ymlaen i astudio mewn prifysgolion detholus iawn. Mae'r elusen yn recriwtio, hyfforddi a lleoli ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol mewn ysgolion i gynnal rhaglenni cyfoethogi academaidd i blant.

Mae gan Sarah gefndir mewn ymchwilio i fecanweithiau canser y prostad ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel rhan o ddau grŵp ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gweithio i ddeall rôl bôn-gelloedd canser mewn canser dwythell y bustl.

Ym mis Mai, cafodd Sarah ei dewis i fod yn rhan o'r rhaglen, er mwyn cynnig ei harbenigedd academaidd i blant mewn ysgolion y wladwriaeth i gyfoethogi eu dysgu a helpu myfyrwyr ledled Cymru i gyrraedd eu llawn botensial.

Dywedodd Sarah: "Roeddwn i am fod yn rhan o Brilliant Club oherwydd rydw i am hyrwyddo ymchwil canser fel llwybr gyrfa, yn enwedig i'r rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

"Mae'r rhaglen yn rhoi platfform i mi ddod yn fodel rôl, ac rwy'n gobeithio y bydd merched ifanc yn gweld gwyddoniaeth ac ymchwil canser fel llwybr gyrfa posibl.

"Byddwn i wrth fy modd i rannu fy mrwdfrydedd dros fy ymchwil, ac i arddangos y cyfleoedd di-ri y mae gan yrfa STEM i'w cynnig, a chynyddu nifer y menywod sydd wedi eu cynrychioli mewn STEM mewn ysgolion.

"Mae bod yn rhan o Brilliant Club yn rhoi cyfle i mi ysgogi'r plant yn eu haddysg, a'u galluogi i ddatblygu'r wybodaeth, sgiliau ac uchelgeisiau sydd eu hangen i fynd i brifysgolion detholus iawn, ynghyd â rhannu'r ymchwil ragorol sy'n cael ei gwneud yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd."

Rhannu’r stori hon