Ewch i’r prif gynnwys

Canmol Ysgol y Biowyddorau am gyfraniad sylweddol at ymchwil feddygol

11 Mehefin 2018

Hadyn Ellis Building, Cardiff
Hadyn Ellis Building, home of the European Cancer Stem Cell Research Institute.

Mae Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd wedi cael ei chanmol yn Nhŷ'r Cyffredin am ei hymchwil ragorol.

Yn ystod adroddiad y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwylliannol ynghylch effaith Brexit ar y sector fferyllol ar 17 Mai, fe wnaeth Stephen Doughty, AS Llafur ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, ganmol yr Ysgol am ei chyfraniad at ymchwil feddygol.

Dywedodd Stephen Doughty: "Mae'r UE a'r diwydiant fferyllol yn cyfrannu symiau sylweddol at ymchwil a datblygu meddygol yn y DU. Rwy'n meddwl yn benodol am Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n gwneud ymchwil canser ragorol, a hefyd – yn fy rôl fel cadeirydd y grŵp hollbleidiol seneddol ynglŷn â HIV ac AIDS – am gyfleuster y Fenter Brechlyn AIDS Ryngwladol, sydd cael lefel wych o arian gan yr UE i'w alluogi i chwilio am frechlyn HIV."

Dywedodd yr Athro Jim Murray, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd i glywed canmoliaeth ar gyfer ein Hysgol yn adroddiad y pwyllgor, oherwydd rydym yn ymfalchïo yn ein henw da am ymchwil, dan arweiniad ymchwilwyr sy'n enwog yn rhyngwladol.

"Mae'r byd yn wynebu heriau digynsail i'n hiechyd a'r amgylchedd, ac mae gan y biowyddorau rôl enfawr i'w chwarae o ran dod o hyd i atebion.

"Mae ein Hysgol yn gwneud ymchwil ragorol ym maes ymchwil feddygol a fferyllol, ac yn gweithio'n agos â phump o sefydliadau ymchwil y Brifysgol, i fynd i'r afael â materion megis canser, iechyd meddwl a darganfod cyffuriau.

"Mae ein Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn ymchwilio i rôl bôn-gelloedd canser mewn canser, i helpu i greu therapïau canser a dargedir, ac i drawsnewid ein dull o ganfod, atal a thrin canser.

"Rydym hefyd yn defnyddio ein harbenigedd i ddeall iechyd meddwl a dementia, ac mae Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl a'r Sefydliad Ymchwil Dementia yn gweithio i ddefnyddio darganfyddiadau sylfaenol i ehangu ein dealltwriaeth o fecanweithiau clefydau, triniaethau, a dulliau atal.

Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau'n gweithio i ddefnyddio ein hymchwil fiofeddygol bwysig i greu cyffuriau newydd ar gyfer clefydau sy'n cynnwys canser ac iechyd meddwl.

"Mae sylwadau Stephen Doughty yn dangos sut mae ein hymchwil arloesol yn cael ei hadlewyrchu'n gynyddol yn ein henw da, ac rydym yn buddsoddi i gynyddu'r ymchwil hon a datblygu effeithiau newydd ar gyfer y gymdeithas. Ar yr un pryd, rydym yn cynnig addysg enwog sydd wedi'i harwain gan ymchwil, felly yn ogystal â gweithio i gael hyd i atebion i broblemau ein hoes, mae ein Hysgol yn creu gwyddonwyr y dyfodol."

Rhannu’r stori hon