Imiwnoleg moch yn dod i oed
18 Mai 2018
Mae tîm o ymchwilwyr, sydd wedi'i arwain gan Brifysgol Caerdydd, wedi datblygu methodoleg ar gyfer astudio ymateb celloedd T moch i'r ffliw am y tro cyntaf, sy'n rhoi ffordd newydd iddynt o ddatblygu brechlynnau sy'n gallu bod yn effeithiol yn erbyn pob math o ffliw mewn moch, adar a phobl.
Dywedodd yr Athro Andrew Sewell, prif awdur yr astudiaeth: "Mae moch yn darparu system fodel dda iawn ar gyfer haint feirws ffliw. Gallant fod wedi'u heintio â ffliw dynol a ffliw adar, yn ogystal â ffliw moch, a gwyddys eu bod yn gweithredu fel ‘llestri cymysgu' ar gyfer creu ffurfiau ffliw pandemig. Bydd y fethodoleg a'r offer newydd rydym wedi’u datblygu yng Nghaerdydd yn caniatáu i ymchwilwyr Pirbright, Ysgol Filfeddygol Bryste a mannau eraill astudio ymatebion celloedd T moch i ffliw yn fanwl am y tro cyntaf. Y nod yn y pen draw fydd creu brechlyn a all fod yn effeithiol yn erbyn pob math o ffliw."
Mae’r ymchwil, sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Sefydliad Pirbright, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Rhydychen, yn dangos sut mae celloedd imiwnedd mewn moch, o'r enw celloedd T lladdwr, yn cael eu recriwtio mewn niferoedd mawr yn yr ysgyfaint ar ôl eu heintio â brechlyn erosol neu’r ffliw.
Nawr bydd yn bosibl olrhain nifer a lleoliad celloedd T yng ngwaed a meinwe moch yn ystod haint, fydd yn gallu helpu i bennu gallu brechlynnau i sbarduno imiwnedd celloedd T. Nawr, mae modd i ymchwilwyr i ragweld pa broteinau ffliw gaiff eu hadnabod gan gelloedd T moch, sydd felly yn darparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer gwella neu ddatblygu brechlynnau.
Defnyddiodd yr ymchwil arloesol, a ddisgrifir yn PLOS Pathogens, fath unigryw o foch Babraham wedi'u mewnfridio i ddatblygu modelau ac offer newydd ar gyfer archwilio ymatebion celloedd T yn erbyn heintiau ffliw neu frechlynnau. Mae’r astudiaeth yn codi’r dulliau ar gyfer astudio’r celloedd imiwnedd hanfodol hyn i’r un safonau uchel ag sydd ar gael ar gyfer bodau dynol a llygod.
Gall celloedd T roi amddiffyniad yn erbyn mathau lluosog o ffliw, ond mae’r brechlynnau presennol yn methu eu rhoi ar waith yn effeithiol. Dangosodd yr astudiaeth newydd fod cyflwyno darpar frechlyn ffliw newydd ag erosol yn hynod effeithlon o ran sbarduno ymatebion celloedd T yn yr ysgyfaint, sy'n hanfodol ar gyfer amddiffyn rhag clefydau resbiradol.
Dywedodd Dr Elma Tchilian, pennaeth y grŵp Imiwnoleg Mwcosaidd yn Pirbright: "Bydd yr astudiaeth hon yn ein galluogi i olrhain celloedd T yn ystod haint a deall sut orau i frechu anifeiliaid a phobl er mwyn cyflawni ymatebion imiwnedd amddiffynnol grymus. Rydym wedi llenwi bwlch a fu’n llesteirio ymchwil imiwnoleg moch yn y gorffennol, ac yn awr gellir eu defnyddio i astudio llawer o glefydau."