Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith uwch-ddarlithydd ar ddiwygio ysgariad yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi

16 Mai 2018

Mae gwaith Dr Sharon Thompson wedi cael sylw mewn trafodaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi ar y Bil Ysgariad (Darpariaeth Ariannol) 2017-2019.

Mae’r Bil, sef Bil Aelod Preifat a gyflwynwyd gan y Farwnes Deech, yn cynnig tri phrif newid i’r gyfraith ar ysgariad: rhannu’r asedau priodasol net yn gyfartal, cyfyngu’r taliadau cyfnodol i uchafswm o bum mlynedd (ac eithrio lle byddai hynny’n arwain at ‘galedi ariannol difrifol’) a gwneud cytundebau cyn priodi yn rhwymol (yn amodol ar fesurau diogelu gweithdrefnol safonol megis cyngor annibynnol, cyfnodau cychwynnol i newid meddwl a datgeliad).

Mae Dr Sharon Thompson, sy’n uwch-ddarlithydd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, yn arbenigo ar ysgariad, eiddo teuluol a chytundebau cyn priodi.  Hi yw awdur Prenuptial Agreements and the Presumption of Free Choice (Hart, 2015).

Cafodd y dystiolaeth a gyflwynwyd ganddi i Dŷ’r Arglwyddi sylw yn y drafodaeth ar ail ddarlleniad y Bil Ysgariad (Darpariaeth Ariannol) 2017-2019 ddydd Gwener 11 Mai. Sylw’r Farwnes Bottomley o Nettlestone oedd: "Mae gwella’r gallu i ragweld y broses setliadau yn ganlyniad gwerthfawr. Ond beth am effaith debygol y Bil o ran dosbarthu nwyddau personol y rhai sydd mewn priodasau lle ceir anghydraddoldeb economaidd rhwng y pâr priod, fel sy’n debygol o fod yn wir yn y mwyafrif o achosion? Bydd pawb wedi darllen y sylwadau gan Dr Sharon Thompson o Brifysgol Caerdydd, a ddywedodd y gallai dileu disgresiwn barnwrol fod yn anfanteisiol i’r partner llai breintiedig yn economaidd trwy leihau hyblygrwydd barnwrol i ddiwallu eu hanghenion drwy rannu eiddo nad yw'n briodasol."

Mae Dr Thompson wedi ysgrifennu nifer o erthyglau yn ddiweddar yn beirniadu safbwynt Bil y Farwnes Deech, gan gynnwys erthygl gyda Russell Sandberg ar ‘Common Defects of the Divorce Bill and Mediation Services (Equality) Bill’ (2017) 47 Family Law 425 ac ‘In Defence of the Gold-Digger’ (2016) (6) (6) Onati Socio-Legal Series 1225.

Mae ei gwaith yn dadlau, er y byddai’r diwygiadau a geir yn y Bil gan y Farwnes Deech yn arwain at sicrwydd cyfreithiol, y byddai'r darpariaethau hynny’n disodli disgresiwn barnwrol â rheolau sefydlog a fyddai'n niweidio menywod yn anghymesur.

Dyma oedd sylw Dr Thompson: "Byddai diogelu eiddo nad yw’n briodasol a dileu disgresiwn barnwrol wrth addasu eiddo yn ergyd ddwbl i'r aelod anariannog o’r pâr priod oherwydd byddai'n dileu'r hyblygrwydd i rannu eiddo nad yw'n briodasol er mwyn diwallu anghenion y priod, a hefyd yn dileu’r hyblygrwydd i gydnabod gwerth cyfraniadau anariannol i'r teulu mewn priodasau hir."

Aeth ymlaen: "Byddai cyfyngu taliadau cyfnodol i uchafswm o bum mlynedd oni bai bod modd dangos caledi ariannol difrifol yn ergyd bellach i’r aelod o’r pâr priod nad oedd yn ariannog. Byddai’r effaith ar aelod o bâr priod oedd yn rhoi gofal yn atgyfnerthu'r anghydraddoldebau strwythurol rhwng dynion a menywod yn y teulu."

Mae Dr Thompson hefyd yn beirniadu darpariaethau’r Bil o ran cytundebau cyn ac ar ôl priodi: "Mae cynigion y Bil ar gytundebau priodasol yn fwy eithafol nag a geir mewn awdurdodaethau lle gorfodir cytundebau o'r fath. Mae oes cyfleuster i roi cyfrif am newidiadau mewn amgylchiadau ar ôl i’r cytundeb gael ei lofnodi. Mae darpariaethau'r Bil mewn perygl o waethygu'r anghydraddoldebau rhyw rhwng parau priod yn ystod priodas ac wrth iddynt wahanu.”

Bydd y Bil Ysgariad (Darpariaethau Ariannol) 2017-2019 yn cael ei ystyried nesaf gan bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi yn ei grynswth ar ddiwrnod i'w benderfynu.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau gwe yr Ysgol.