Disgyblion yn cynllunio eu cymdogaethau delfrydol
15 Mai 2018
Mae dros 700 o ddisgyblion o 24 o ddosbarthiadau ysgol gynradd wedi gweithio gydag Ysgol Pensaernïaeth Prifysgol Caerdydd i ddylunio eu cymdogaethau delfrydol.
Enillwyd cystadleuaeth Llunio Fy Stryd, sydd wedi'i chefnogi gan Gomisiwn Dylunio Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW), gan Ysgol Gynradd Ffynnon Taf yn Ffynnon Taf.
Roedd ysgolion cynradd Marlborough a Christ the King yng Nghaerdydd yn yr ail safle.
Nod y gystadleuaeth beilot, a lansiwyd ym mis Ionawr, yw helpu dysgwyr ifanc rhwng saith ac un ar ddeg oed i ddeall beth sydd ei angen i greu cartref a chymuned lwyddiannus, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.
Dywedodd Ed Green, o'r Ysgol Pensaernïaeth: "Nod gweithgareddau'r gystadleuaeth yw datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dylunio ac ansawdd yn yr amgylchedd adeiledig.
"Roedd pob ysgol a gymerodd ran wedi creu gwaith rhagorol, yn llawn syniadau, ac yn dangos potensial yr holl blant i ddylunio'n annibynnol ac yn greadigol, ac i gydweithio."
Nod penodol y rhaglen yw annog ysgolion o leoliadau daearyddol anghysbell a chymunedau sydd dan anfantais economaidd i godi ymwybyddiaeth am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol, yng Nghymru ac yn ehangach.
Dywedodd Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru, fod y panel beirniadu wedi cael eu syfrdanu gan ansawdd ac amrywiaeth y gwaith a gyflwynwyd, a gan y ffordd roedd y plant yn meddwl am yr hyn sydd ei angen i greu cymuned gadarnhaol.
Cafodd y tair ysgol fuddugol eu gwahodd i 'ddiwrnod dathlu' yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Yno, gofynnwyd i'r tri dosbarth ddylunio tŷ yn y dyfodol ar gyfer safle Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gyda phob un ohonynt yn cael cymorth dau ddylunydd proffesiynol.
Dywedodd Llywydd RSAW, Carolyn Merrifield, a farnodd y cam hwn o'r gystadleuaeth: "Unwaith eto roedd safon y gwaith yn ardderchog a chafwyd ymateb hynod greadigol gan y plant i'r briff a'r lle," meddai.
Dywedodd Matt Worth, pennaeth yr ysgol fuddugol, Ysgol Gynradd Ffynnon Taf: “Cefais fy mhlesio’n fawr hefyd gan waith y plant wrth iddynt gydweithio i greu eu stryd.
"Roedden nhw'n dangos llawer o empathi a dealltwriaeth gymdeithasol wrth drafod pa gyfleusterau fyddai eu hangen ar y gymuned, pwy ddylai gael y golygfeydd gorau a’u penderfyniad i ddylunio mannau cyhoeddus o safon".
"Rwy'n edrych ymlaen at ehangu'r prosiect i fod yn wythnos STEM gyfan."
Mae’r trefnwyr am ehangu'r fenter i fod yn gystadleuaeth genedlaethol sy’n agored i bob ysgol gynradd yng Nghymru y flwyddyn nesaf.