Ewch i’r prif gynnwys

Hitler’s Circle of Evil – safbwynt hanesydd

14 Mai 2018

Mae Dr Toby Thacker, sy’n awdurdod ar fywyd prif bropagandydd y Natsïaid, Joseph Goebbels, wedi cyfrannu'n helaeth at gyfres drama-ddogfen sy’n trin a thrafod y perthnasoedd rhyngbersonol a deinameg grym aelodau allweddol y blaid Natsïaidd.

Gan dechrau ym 1919 pan gafodd y Blaid Natsïaidd ei sefydlu, hyd at orchfygiad chwerw’r Almaen ym 1945, mae Hitler’s Circle of Evil yn astudio nodweddion yr unigolion allweddol o gwmpas Hitler fu’n flaenllaw yn y blaid Natsïaidd a galluogi cynlluniau Hitler, o Goebbels a Göring i Himmler a Hess.

Mae Dr Thacker, awdur y bywgraffiad cynhwysfawr Joseph Goebbels: Life and Death (Palgrave Macmillan), ymysg y panel arbenigol sy’n cael ei gynnwys drwy gydol y gyfres ac yn rhoi dadansoddiad llafar ar y cyd ag ailgreadau allweddol o adegau yn ystod cynnydd a chwymp y blaid Natsiaidd.

Mae Dr Thacker yn cyfrannu o’r ail raglen ymlaen – Regrouping – wrth i yrfa Goebbels ffynnu ar ôl 1924.

Mae Dr Toby Thacker yn Uwch-ddarlithydd Hanes Modern. Ef hefyd yw awdur British culture and the First World War: experience, representation, and memoryThe end of the Third Reich: defeat, denazification and Nuremburg January 1944 - November 1946.

Mae Hitler's Circle of Evil  ar gael ar-lein. Mae Dr Thacker yn ymddangos o’r ail raglen ymlaen (ar ôl 20 munud).

Rhannu’r stori hon