Ewch i’r prif gynnwys

Naws cymunedol yn nawns Diwedd y Flwyddyn

4 Mai 2018

Black and white overhead image of multiple people on the dancefloor

Daeth hyd at 400 o fyfyrwyr a staff ynghyd yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar gyfer Dawns Diwedd y Flwyddyn ar 19 Ebrill 2018.

Trefnwyd y digwyddiad eleni – ar y thema ‘Noson yn yr Oscars’ – gan gymdeithas myfyrwyr Daearyddiaeth a Chynllunio (GeoPlan), ac fe ddathlodd lewyrch a hudoliaeth Hollywood.

Daeth cannoedd i’r digwyddiad, gan gynnwys myfyrwyr o’r flwyddyn gyntaf, ymchwilwyr ôl-raddedig yn ogystal a staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol. Roedd yn gyfle i ddod ynghyd fel un gymuned a nodi diwedd y flwyddyn academaidd, sy’n prysur agosáu.

Llwyddodd yr ysgol i gynnig tocynnau am bris rhatach eleni gyda chymorth cronfa o arian gan Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Crëwyd y gronfa hon gyda'r bwriad o wella profiad y myfyriwr a helpu i feithrin ac atgyfnerthu ymdeimlad ehangach o gymuned.

Yn ôl Jordan Martin, myfyriwr blwyddyn olaf BSc Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, a Llywydd GeoPlan: “Mae dawns GeoPlan yn denu llawer bob amser ond, heb amheuaeth, daeth mwy o bobl eleni gan fod yr Ysgol wedi gallu cynnig tocynnau rhatach. Cawsom gynrychiolaeth wych o bob blwyddyn, gan gynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf, pobl ar leoliadau gwaith a myfyrwyr ôl-raddedig. Roedd pawb yn siarad â’i gilydd ac yn meithrin cymuned GeoPlan.”

Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi ymrwymo i ddarparu’r profiad gorau posibl i’w myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae’n hen law ar gynnig profiad sydd wrth fodd ein myfyrwyr a chafodd sgôr o 94% yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr y tro diwethaf o ran boddhad cyffredinol ar lefel israddedig, a 90% ar lefel ôl-raddedig (Arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir 2017). Caiff calendr deinamig o ddigwyddiadau a gweithgareddau ei drefnu bob blwyddyn gan gynnwys sgyrsiau a dangosiadau ffilm, ac mae ‘diwrnod mabolgampau’ yr Ysgol – sy'n dod â myfyrwyr a staff ynghyd i gystadlu mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau – bob amser yn boblogaidd. Mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig, ond yn hwyl. Cynhelir diwrnod mabolgampau eleni ar 30 Mai.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.