Ewch i’r prif gynnwys

Tsiecoslofacia 100 mlynedd yn ddiweddarach

8 Mai 2018

Czechslovakia100

Mae cynhadledd hanesyddol ym Mhrifysgol Caerdydd yn dwyn ynghyd diplomyddion, gwleidyddion, llunwyr polisi a dadansoddwyr i archwilio sut y gall gwersi o hanes helpu i lunio polisi ar gyfer y byd heddiw, sy’n prysur newid.

Mae Czechoslovakia100 yn digwydd ddydd Gwener 11 Mai ac yn nodi canmlwyddiant ers sefydlu gwladwriaeth Tsiecoslofacia ym 1918.

Mae 2018 yn nodi sawl pen-blwydd pwysig i’r wladwriaeth, a thrwy gysylltiad, i Ewrop yr ugeinfed ganrif.

Mae'n rhannu pen-blwydd ag argyfwng Munich ym 1938, rhannu’r wlad yn wladfa Almaenaidd Natsïaidd a Gweriniaeth gydweithredol dros dro ym 1939, meddiannaeth gomiwnyddol ym 1948, Gwanwyn Prag 1968 a diddymu’r wladwriaeth yn derfynol ym 1993.

Yn arwain sesiynau bwrdd crwn fydd Dirprwy Benaethiaid Cenhadaeth o lysgenadaethau y Weriniaeth Tsiec a Slofacia yn Llundain. Bydd Is-gennad Anrhydeddus y Weriniaeth Slofac yng Nghymru hefyd yn bresennol. Mae’r diwrnod yn agor gyda chroeso gan y Farwnes Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru.

Yn cyfrannu at y diwrnod mae ystod eang o arbenigwyr o du allan i'r byd academaidd, gan gynnwys

  • Josef Jařab (Rheithor Emeritws, Prifysgol Palacký, Olomouc, y Weriniaeth Tsiec a Seneddwr yn Senedd y Weriniaeth Tsiec);
  • Frédéric Labarré (Consortiwm o Academïau Amddiffyn a Sefydliadau Astudiaethau Diogelwch y Bartneriaeth Heddwch, NATO);
  • Jan Brunner (Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth, Llysgenhadaeth y Weriniaeth Tsiec);
  • Imrich Marton (Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth, Llysgenhadaeth Slofacia yn Llundain)
  • Angela Spindler-Brown (Cymdeithas Gweriniaeth Tsiec a Slofacia Cymru).
  • Athro cyfraith nodedig Caerdydd, Jiří Přibán ac academyddion blaenllaw o Fforwm y Weriniaeth Tsiec a Slofacia

Mae 2018 yn flwyddyn bwysig i hanes y wladwriaeth, gan  nodi sawl pen-blwydd pwysig, a thrwy gysylltiad, i Ewrop yr ugeinfed ganrif. Yn y flwyddyn sy'n nodi canmlwyddiant ei chreu yn sgil y Rhyfel Mawr, mae hefyd yn dwyn creithiau newidiadau ehangach yn Ewrop yr ugeinfed ganrif. Mae'n rhannu pen-blwydd ag argyfwng Munich ym 1938, rhannu’r wlad yn wladfa Almaenaidd Natsïaidd a Gweriniaeth gydweithredol dros dro ym 1939, meddiannaeth gomiwnyddol ym 1948, Gwanwyn Prag 1968 a diddymu’r wladwriaeth yn derfynol ym 1993.

Trefnydd y digwyddiad, yr Athro Mary Heimann, Athro Hanes Modern, yw awdur y llyfr arloesol Czechoslovakia: The state that failed. Meddai:

"Mae Czechoslovakia100 yn ceisio pwyso a mesur y can mlynedd sydd wedi mynd heibio ers sefydlu gwladwriaeth Tsiecoslofacia gyntaf drwy’r cyfuniad pwerus o arbenigedd y bydoedd academaidd, diplomyddiaeth, llunio polisïau a chyfraith ryngwladol.  Gwahoddir arbenigwyr i gyfleu eu canfyddiadau ymchwil mwyaf arwyddocaol a’u mewnwelediad proffesiynol am orffennol Tsiecoslofacia."

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio cloi trafodion ffurfiol y diwrnod gyda syniadau ar gyfer argymhellion polisi, gwersi a ddysgwyd o orffennol Tsiecoslofacia ar gyfer y byd sydd ohoni."

Noddir y digwyddiad gan y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudiaethau Slafonic a Dwyrain Ewrop (BASEES), Llysgenhadaeth y Weriniaeth Tsiec yn Llundain, Llysgenhadaeth Slofacia yn Llundain, a'r Archifau a Chasgliadau Arbennig, sy’n gartref i Gasgliad Tsiecoslofac Arbennig yn ein Llyfrgell Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol.

Dilynwch y diweddariadau drwy Twitter neu defnyddiwch yr hashnodau #Czechoslovakia100 neu #CzechSlovak100.

Mae’r Athro Heimann yn awdurdod arweiniol ar hanes Tsiecoslofacia a thrwy ddysgu gwersi o’r hanes hwn, fe lwyddodd i gyfrannu argymhellion polisi ar gyfer sefydlogrwydd rhanbarthol drwy gyfrwng Partneriaeth NATO Dros Heddwch. Y llynedd, fe’i gwahoddwyd i siarad yn TEDxCardiff a rhybuddiodd yn ei sgwrs, er bod Ewrop yn dal i ddangos creithiau Natsïaeth a Staliniaeth, mae’r byd fel petai unwaith eto’n cerdded yn ddiarwybod i dotalitariaeth.

Gwyliwch ei sgwrs TEDxCardiff ar sut y gallwn ddysgu gwersi o’n hanes a sut, fel unigolion, y gallwn chwarae rhan wrth wneud yn siŵr nad ydym ni’n ailadrodd yr un camgymeriadau.

https://www.youtube.com/watch?v=DMaHnccyYGY

Rhannu’r stori hon