Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr: ‘Dragon’s Den’

4 Ionawr 2003

Student Innovation Festival

Cafodd Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr, sy'n rhoi syniadau creadigol ar waith, ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd fis diwethaf.

Mae’r ŵyl, sy’n cynnwys cyflwyniadau, arddangosfeydd, a digwyddiadau dros dro, yn dod â myfyrwyr, staff o wahanol Ysgolion y Brifysgol a phartneriaid cymunedol ynghyd i drin a thrafod ffyrdd newydd o ddatrys problemau yn y ‘byd go iawn’.

Roedd yr ŵyl, a gafodd ei chynnal rhwng 9 ac 16 Mawrth, yn paratoi'r ffordd ar gyfer lansio rhaglen 'Arloesedd i Bawb'. Mae’r rhaglen hon yn arddangos ymchwil ddylanwadol yn y Brifysgol, hybu dealltwriaeth o arloesedd yng nghyd-destun dysgu, ac yn helpu myfyrwyr Caerdydd i wella eu sgiliau entrepreneuraidd, arloesol, a meddwl yn greadigol.

Yn rhan o’r ŵyl, bu Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a’r Ysgol Meddygaeth yn cydweithio â phartneriaeth arloesedd clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro er mwyn cynnig cystadleuaeth Arloesedd i Fyfyrwyr; ‘Dragon’s Den’.

Nathan Anderson, sy’n fyfyriwr meddygaeth, enillodd y wobr gyntaf o £200 am gynnig blog wedi’i gynllunio gan fyfyrwyr i wella sut mae myfyrwyr yn dysgu.

Yn ôl Dr Valerie Sparkes, a aeth i’r digwyddiad, ‘roedd yn wych gweld y myfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau arloesol, gan gynnwys offer arloesol fel gwelyau gofal pwysau mewn ysbytai a glanhau stethosgopau, dulliau dadansoddi llif cleifion i mewn i adrannau achosion brys, a ffyrdd o hwyluso’r broses ddysgu i fyfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o syniadau arloesol ym maes gofal iechyd y flwyddyn nesaf’

Rhannu’r stori hon