Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd “Gwrthdrawiadau rhwng y Sêr a Thyllau Duon” i lansio sefydliad ymchwil newydd

3 Mai 2018

Two black holes

Bydd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn lansio ei sefydliad ymchwil newydd, Archwilio Disgyrchiant, drwy gynnal cynhadledd dau ddiwrnod o hyd, “Gwrthdrawiadau rhwng y Sêr a Thyllau Duon: Archwilio Disgyrchiant yng Nghaerdydd” ar 29 - 30 Mai 2018.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys gwahoddiadau i sgyrsiau gan astroffisegwyr blaenllaw o amgylch y byd, a bydd yn fforwm ar gyfer trafodaethau ynghylch dyfodol ymchwil seryddiaeth tonnau disgyrchiant. Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu o arsylwadau aml-neges o ffynonellau tonnau disgyrchiant, a’u goblygiadau ar gyfer y dyfodol. Bydd sesiynau ymarferol hefyd ynglŷn â chael gafael ar ddata tonnau disgyrchiant a’i ddefnyddio. Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd yn Adeiladau’r Frenhines sydd yng nghanol y ddinas.

Mae'r siaradwyr gwadd yn cynnwys:

  • Valerie Connaughton (NASA)
  • Hartmut Grote (Prifysgol Caerdydd)
  • Andrew Levan (Prifysgol Warwick)
  • Bernard Schutz (Prifysgol Caerdydd)
  • Alberto Vecchio (Prifysgol Birmingham)

Dyma fydd y prif bynciau trafod:

  • Arsylliadau tonnau disgyrchiant o GW170817
  • Arsylliadau electromagnetig o GW170817: o belydrau gama i radio
  • Goblygiadau Damcaniaethol: ffiseg sylfaenol, cosmolegol, astroffisegol
  • Arsyllfeydd y dyfodol: tonnau disgyrchiant ac EM
  • Data agored ton disgyrchiant

Un nodwedd benodol sy’n gysylltiedig â’r gynhadledd fydd darlith gyhoeddus gan yr Athro Barry Barish, enillydd gwobr Nobel, ar “LIGO a Chanfod Tonnau Disgyrchiant”, a gynhelir yn Narlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 6.00pm ar 29 Mai. Bydd yr Athro Barish yn sôn am chwilio am donnau disgyrchiant, eu canfod yn 2015, a beth mae hyn yn ei olygu i ddyfodol ymchwil seryddol.

Bydd y ddarlith gyhoeddus gan yr Athro Barish yn rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i: bit.ly/Caerdydd-ligo-darlith

Bydd gwledd i gynrychiolwyr cynadleddau ar ôl y ddarlith ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd yng nghanol y ddinas.

Rydym bellach yn derbyn crynodebau ar gyfer y gynhadledd a gallwch gyflwyno crynodeb yma: https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/cardiff-gravity-abstract

I gofrestru fel cynadleddwr ar gyfer y gynhadledd, ewch i:https://www.eventbrite.co.uk/e/colliding-stars-and-black-holes-gravity-exploration-in-cardiff-tickets-45521228219?utm_campaign=new_event_email&utm_medium=email&utm_source=eb_email&utm_term=viewmyevent_button

Rhannu’r stori hon