Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth am arloesedd academaidd

30 Ebrill 2018

Mae Dr Craig Gurney o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ar y rhestr fer yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr (yr ESLAs) 2018.

Mae Dr Gurney wedi'i enwebu yng nghategori'r Aelod Staff Mwyaf Arloesol, ochr yn ochr â chydweithwyr o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Caiff yr ESLAs – sydd bellach ar eu hwythfed flwyddyn – eu cynnal gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cawsant eu creu i gydnabod a dathlu cyfraniad staff academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr wrth gyflawni profiad ysgogol, cefnogol a dynamig i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Torrwyd record eleni, gyda thros 600 o enwebiadau wedi dod i law ar gyfer yr 14 gwobr fydd yn cael eu cyflwyno yn y seremoni wobrwyo a'r cinio tei ddu, ddydd Gwener 3 Mai.

Yn ôl Dr Gurney, mewn ymateb i'r enwebiad hwn: "Rwyf wrth fy modd fy mod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon.  Bellach, rwyf ar fy 22ain blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn mwynhau addysgu myfyrwyr o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ac o fannau eraill, yn fwy nag erioed. Mae cael fy enwebu a'm gosod ar y rhestr fer yn y categori hwn yn anrhydedd arbennig, am ei fod yn golygu bod myfyriwr neu fyfyrwyr wedi cymryd yr amser a'r drafferth i eistedd i lawr a myfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain, cyn llenwi'r ffurflen enwebu.

"Mae i arloesi sawl ystyr wahanol ac mae'r holl staff a myfyrwyr yn ymgymryd â gweithredoedd arloesol dysgu, addysgu a chydweithio yn ddyddiol, felly mae'n fraint wirioneddol bod rhywbeth a wnes i yn cael ei gydnabod yn y modd hwn."

"Rwy'n amlwg yn ddiolchgar i bwy bynnag wnaeth fy enwebu, ond hefyd i Undeb y Myfyrwyr am drefnu'r gwobrau."

Yn ogystal ag addysgu'n rhan-amser yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, mae Dr Gurney hefyd yn addysgu yn Addysg Barhaus a Phroffesiynol, a daeth yn ail ar gyfer gwobr Tiwtor Addysg i Oedolion y Flwyddyn, Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru 2017.

Mae gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio hanes cyson o fodloni myfyrwyr a chyflawnodd 94% yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr y tro diwethaf ar gyfer bodlonrwydd yn gyffredinol. Hoffwn i ddymuno pob lwc i Dr Gurney – a'r holl enwebeion eraill – yn ESLAs 2018.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.