Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu Mynediad i Feddygaeth

26 Ebrill 2018

Image of the WAMS team

Mae myfyrwyr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyflwyno cynllun i gefnogi disgyblion ysgol lleol sydd â’u bryd ar fod yn feddygon.

O dan arweinyddiaeth y myfyriwr meddygol David Lawson, a gyda chefnogaeth yr Ysgol Meddygaeth, mae gan y cynllun Ehangu Mynediad i Feddygaeth (WAMS) dros 100 o fyfyrwyr Meddygaeth sy’n wirfoddolwyr – wedi eu hyfforddi yn maes mentora sy’n mynd i dros 26 o ysgolion ar draws Cymru.

Ers sefydlu'r cynlluniau, mae 200 o ddisgyblion eisoes wedi cael cymorth gyda’u ceisiadau a’u cyfweliadau, ac mae mwy o ysgolion yn dod yn rhan o’r fenter drwy’r amser. O ystyried bod myfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn cael eu hyfforddi ledled Cymru, mae hyn yn rhoi mynediad i’r cynllun i lawer o gymunedau.

Mae’r niferoedd yng Nghymru sy’n cyflwyno cais ar gyfer gradd feddygol gonfensiynol 5 mlynedd – er yn sefydlog – yn is y pen, na gweddill y DU. Mae hyn yn arwyddocaol gan fod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi awgrymu bod y myfyrwyr hynny sy’n astudio yn eu rhanbarth eu hunain yn fwy tebygol o weithio yn yr un ardal. Gallai hyn helpu i fynd i'r afael â phrinder staff meddygol ar hyn o bryd sy'n effeithio ar rannau o Gymru.

Mynychodd y myfyriwr meddygol David Lawson ysgol wladol yng Nghaerdydd a’i fwriad yw gweithio yng Nghymru. Mae’n teimlo’n angerddol ynghylch ehangu mynediad i ddisgyblion ac mae wedi sylweddoli y gallai ychydig o help gan fyfyrwyr sydd eisoes wedi’u lleoli ledled Cymru wneud gwahaniaeth enfawr i nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru.

Yn ôl David: “Rwy'n gobeithio y bydd y cymorth a ddarperir yn rhoi hyder i ddisgyblion ysgol ar draws Cymru wrth iddynt wneud eu ceisiadau a chael cyfweliadau. Gyda lwc, bydd yn cynyddu nifer y ceisiadau llwyddiannus yn y pen draw. Fy ngobaith yw, un diwrnod, y bydd gyrfa mewn Meddygaeth yng Nghymru o fewn cyrraedd pawb sy’n addas ar ei chyfer, waeth o ba ysgol neu dref y maen nhw’n hanu ohonynt.

Mae’r Athro Dave Wilson, Cadeirydd Grŵp Derbyniadau’r Ysgol Meddygaeth, yn teimlo’n gadarnhaol iawn am y fenter a arweinir gan fyfyrwyr a fydd – gobeithio – yn annog disgyblion i ystyried gwneud cais am astudio Meddygaeth. Ychwanegodd: “Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn gweithio’n galed i helpu’r rheini sy’n meddu ar y gallu i astudio Meddygaeth, gan ddarparu gwybodaeth berthnasol a chefnogaeth i ymgeiswyr Meddygaeth. Er bod hyn wedi bod mynd rhagddo, mae gweithgarwch wedi cynyddu wrth i'r angen i wneud hynny ddod yn fwy amlwg.

“Ein myfyrwyr yw ein llysgenhadon gorau, ac maent yn awyddus i rannu eu profiadau eu hunain gydag eraill i sicrhau eu bod yn llunio cais llwyddiannus. Ag angen amlwg i fwy o ddisgyblion Cymru ystyried Meddygaeth fel gyrfa, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn hwb i niferoedd, a byddwn yn gweld mwy o geisiadau o Gymru i astudio Meddygaeth.”

O ganlyniad i’r rhaglenni ymgysylltu hyn yn uniongyrchol, mae nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd bellach yn cynyddu.

Yn ôl Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol yn yr Ysgol Meddygaeth: “Mae myfyrwyr Cymru yn cystadlu’n dda yn ystod y broses dderbyn, gyda 60% o’r rhai sy’n cyfweliad yn cael cynnig lle. Gydag oddeutu 50% o ddisgyblion Cymru yn gwneud cais i astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd, yr her yw nid yn unig cynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais ar gyfer Meddygaeth, ond hefyd y nifer sy'n gwneud cais i astudio Meddygaeth yng Nghymru yn benodol.”

Rhannu’r stori hon