High-tech fun for 500 pupils
25 Ebrill 2018
Bydd cannoedd o ddisgyblion ysgol gynradd yn dysgu am dechnoleg o'r radd flaenaf gyda 50 o fyfyrwyr coleg mewn digwyddiad a drefnwyd ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Choleg Penybont.
Bydd myfyrwyr Coleg Pen-y-bont, fel rhan o'u cyrsiau cyfrifiadureg a pheirianneg, yn cynnig gweithdai a gweithgareddau ymarferol i 500 o ddisgyblion o ysgolion ledled de Cymru.
Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau roboteg gyda thechnoleg fel cyfrifiaduron Raspberry Pi i'w helpu i gael sgiliau i ffynnu mewn byd sy'n fwyfwy digidol.
Cynhelir y digwyddiad yng Ngholeg Penybont ddydd Iau 26 Ebrill 2018 rhwng 11.00 a 14.00.
Mae'r digwyddiad, SMILE Pi & Mash, wedi'i drefnu gan Scott Morgan o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd a Claire George, darlithydd TG yng Ngholeg Penybont.
Meddai Scott: "Rydw i wedi ymrwymo i wella cydweithio ym maes addysg, ac mae'r digwyddiad hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â chenhadaeth ddinesig Prifysgol Caerdydd i weithio gydag ysgolion, colegau, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru.
"Fel rhan o etifeddiaeth y digwyddiad hwn, byddwn yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng ein Prifysgol, Coleg Penybont, a llawer o ysgolion cynradd, gyda'r nodd o ysbrydoli myfyrwyr o bob cefndir i gael diddordeb mewn addysg ac i adeiladu, creu a datblygu technolegau'r dyfodol."
Dywedodd Claire: "Bydd Pi & Mash yn gwthio terfynau'r cwricwlwm ac yn defnyddio technolegau sy'n datblygu i greu arferion dysgu arloesol ar draws ysgolion cynradd a cholegau. Prif nod y diwrnod yw dysgu, chwarae a chael hwyl."
Mae'r gweithgareddau'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a datrys problemau fel rhan o'u cyrsiau BTEC Lefel 2 a 3 mewn cyfrifiadureg a pheirianneg.
Yn y cyfamser, bydd y disgyblion yn datblygu eu gallu i feddwl mewn ffordd gyfrifiadurol a defnyddio rhesymeg, ond mae pwyslais ar ddysgu drwy chwarae a chael hwyl.
Mae'r digwyddiad yn rhan o brosiect ehangach SMILE (Student Motivation for Innovative Learning through Enterprise) a sefydlwyd gan Claire dros 10 mlynedd yn ôl, gyda'r prif nod o ddatblygu sgiliau cyfathrebu i fyfyrwyr coleg Addysg Bellach drwy leoliadau, digwyddiadau a gweithdai diwydiannol a chymunedol.