Ewch i’r prif gynnwys

Mannau Cynaliadwy yn cynnal seminar SCHEMA

18 Ebrill 2018

Malaysia

Cyd-drefnodd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a SCHEMA UNU-IIGH seminar yn cynnwys sgyrsiau ar gynaladwyedd amgylcheddol ac iechyd.

Bu'r Athro Cyswllt Dr Ahmad Fariz Mohamed, Uwch Gymrawd gyda Sefydliad yr Amgylchedd a Datblygu (LESTARI), Prifysgol Kebangsaan Malaysia (UKM) yn trafod y broses drefoli a welwyd yn Kuala Lumpur a'r rhanbarth.

Yn ei sgwrs “Urbanisation in Transition: The Experiences of Kuala Lumpur Extended Mega Urban Regions (KLEMUR)”, disgrifiodd Dr Ahmad Fariz sut yr esblygodd trefoli yn y rhanbarthau KLEMUR (sy'n estyn o Tanjung Malim yn Perak i Seremban yn Negeri Sembilan) rhwng 1926 a 2008 a hyd heddiw, yr ysgogiad ar gyfer y broses hon ynghyd â'i goblygiadau a'i heffaith ar ddefnydd tir, pobl ac iechyd.

Photo of Ahmad Fariz

Cyflwynodd Ms Esther Sinirisan Chong o Sefydliad Penang un o'r astudiaethau achos a gyhoeddwyd ym mhortffolio astudiaethau achos SCHEMA a lansiwyd yn 9fed Fforwm Trefol y Byd yn Kuala Lumpur, Malaysia ym mis Chwefror 2018. Roedd sgwrs Ms Chong yn canolbwyntio ar rwystrau at greu amgylchedd bwyta iachus ym Malaysia yn seiliedig ar eu hastudiaeth achos "Dewisiadau Bwyd Iach a Diabetes".

Photo of Esther Chong

Mae'r sgyrsiau'n rhan o gyfres o gyfnewidiadau academaidd dan brosiect SCHEMA, a gyllidir gan Grant Cysylltiadau Rhyngwladol Newton-Ungku-Omar y Cyngor Prydeinig. Mae'r Athro Cyswllt Ahmad Fariz a Ms. Chong ill dau'n gyn gyfranogwyr yng ngweithdy SCHEMA.

Cymerodd Dr Fariz ran yng ngweithdy SCHEMA ar seilwaith natur ac iechyd a gynhaliwyd yn Kuching ym mis Ionawr 2017 a'r gweithdy SCHEMA ar systemau bwyd ac iechyd yn Penang ym mis Rhagfyr 2017; tra bo Ms Chong yn rhan o'r gweithdy a gynhaliwyd yn Penang.

Rhannu’r stori hon