Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd gan y Brifysgol i drigolion yr ardal

23 Ebrill 2018

Image of people attending Career and Role Model week

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfleoedd astudio a gyrfaoedd i drigolion ardal Grangetown yn rhan o brosiect cymunedol.

Bydd Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl – a gynhelir rhwng 23 a 28 Ebrill 2018 – yn cynnig cymorth ar gyfer cyflwyno cais i’r Brifysgol, cyngor gyrfaoedd, hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau, a llawer mwy.

Prosiect Porth Cymunedol ffyniannus Prifysgol Caerdydd sydd y tu ôl i'r fenter, sy'n ceisio darparu mentoriaid ac arbenigwyr i helpu trigolion Grangetown i gyflawni eu potensial.

Mae'r prosiect yn ceisio annog y gymuned i fanteisio ar gyrsiau a chyfleoedd am swyddi yn y Brifysgol, ac mae eisoes wedi cael cryn lwyddiant.

Mae dau aelod o fforwm ieuenctid y Porth Cymunedol – Nirushan Sudarsan a Shoruk Nekeb, ill dau yn 18 oed – wedi llwyddo i gael lleoedd ar gyrsiau gradd israddedig yn y Brifysgol ar ôl cael cymorth gan y prosiect.

Yn ôl Ali Abdi, rheolwr partneriaethau Porth Cymunedol: “Yn draddodiadol i lawer o bobl yn Grangetown, ni fydden nhw wedi ystyried bod cysylltiad agos rhwng y Brifysgol a’u bywydau nhw. Felly, rydym wedi bod yn helpu i ddod â’r Brifysgol yn nes at y gymuned.

“Rydym wedi bod yn helpu pobl ifanc i anelu at astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae llawer ohonynt, erbyn hyn, yn gwybod bod hynny’n rhywbeth y gallen nhw ei wneud a rhoi cynnig arni.

“Rydym wedi helpu Nirushan a Shoruk gyda phethau fel mynd i ddiwrnodau agored a chwrdd â staff adrannol oherwydd hwyrach nad oedd cymaint â hynny o hyder ganddyn nhw i ddechrau, ond maen nhw wedi gwneud yn wych.”

Mae Nirushan yn astudio’r gyfraith a gwleidyddiaeth, ac mae Shoruk wedi’i dderbyn i astudio pensaernïaeth. Mae’r ddau fel ei gilydd yn mynd i Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Dywedodd Nirushan: “Rwy'n gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gefais gan y Porth Cymunedol yn fawr, ac fe wnes i’n sicr elwa o fynd i’r wythnos yrfaoedd y llynedd yn Grangetown.

“Rwy'n edrych ymlaen at fod yn fodel rôl yn y digwyddiad eleni a byddaf yn cefnogi unrhyw bobl ifanc sy’n meddwl am eu hastudiaethau yn y dyfodol, a’u gyrfaoedd.”

Dywedodd Shoruk: “Gwn nad oes gan lawer o ddiddordeb gan ferched bob amser mewn pynciau sy’n gysylltiedig â STEM. Felly, rwyf am ddangos i ferched yn fy nghymuned pam mae STEM yn bwysig a’u bod yn gallu dilyn yr un llwybr â mi at yrfa ddiddorol.”

Yn ogystal, mae staff o’r adrannau Adnoddau Dynol a Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth yn y gymuned ynghylch cyfleoedd gwaith yn y Brifysgol.

Yn ôl Sue Midha, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Brifysgol: “Mae'n gyfle gwych i ni yn yr adran Adnoddau Dynol ddod i adnabod aelodau o gymuned Grangetown. Mae hefyd yn llwyfan i ddangos lle mor wych yw Prifysgol Caerdydd i weithio ynddo, gan gynnwys yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael. Gallwn hefyd gynnig cymorth ac arweiniad i aelodau o’r gymuned sy’n ystyried dod i weithio gyda ni.”

Bellach, mae’r Porth Cymunedol wedi trefnu wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl i amlygu’r cyfleoedd y gall y Brifysgol eu cynnig i holl drigolion Grangetown.

Cynhelir diwrnodau ar thema benodol ym Mhafiliwn Grange, Gerddi Grange, Grangetown, yn ystod yr wythnos, yn cynnig cyngor am yrfaoedd ac astudiaethau.

Mae rhywbeth i gyw-entrepreneuriaid a pherchnogion busnes hefyd, gan fod y sesiynau a gynhelir ddydd Mawrth yn cynnig gwybodaeth am sut i greu busnes, a’r cyfle i gwrdd â’n tîm caffael i weld sut y gall eich busnes weithio gyda'r Brifysgol.

Dyma’r rhaglen ar gyfer pob diwrnod:

  • Gwneud cais i’r Brifysgol ar gyfer gwaith ac astudio (dydd Llun 23 Ebrill, 16:00 - 19:00)
  • Dechrau busnes a gwneud busnes gyda'r Brifysgol (dydd Mawrth 24 Ebrill, 16:00 - 19:00)
  • Cael mynediad i’ch gyrfa ddewisedig, sy’n cynnwys stondinau gan nifer o Ysgolion y Brifysgol (dydd Mercher 25 Ebrill 15:00 i 18:00)
  • Cael mynediad i yrfâu ym myd iechyd (dydd Iau 26 Ebrill, 16:00 i 19:00)
  • Gweithgareddau chwaraeon Prifysgol Caerdydd (dydd Gwener 27 Ebrill, 16:00 i 19:00)
  • Dewch i ymweld â Phrifysgol Caerdydd i ganfod sut brofiad yw astudio yma (dydd Sadwrn 28 Ebrill 10:00 i 13:00)

Mae’r Porth Cymunedol, sydd eisoes wedi lansio dros 40 o brosiectau Prifysgol-gymunedol, yn gweithio law yn llaw â thrigolion a sefydliadau lleol i helpu i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddo.

Mae’r prosiect yn rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau’r Brifysgol Caerdydd sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Rhannu’r stori hon