Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn rhannu syniadau mawr gyda busnesau

8 Mawrth 2018

Student working at PC

Bydd gan arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid cymdeithasol gyfle unigryw i gyfnewid syniadau creadigol gyda myfyrwyr sy’n arloeswyr yfory mewn digwyddiad arddangos yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Mae'r digwyddiad, a drefnwyd gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, yn dod ag entrepreneuriaid ifanc ac arloeswyr menter gymdeithasol ynghyd i archwilio cyfleoedd ar gyfer tyfu syniadau sy’n adeiladu byd gwell.

Ymhlith y siaradwyr mae Adam Dixon, Prif Swyddog Gweithredol Phytoponics – system chwyldroadol o dyfu hydroponeg sy’n aros am batent, gyda'r pŵer i drawsnewid amaethyddiaeth fasnachol fyd-eang – a Dan Swygart, sylfaenydd TrekinHerd – yr ap antur, sydd wedi ennill gwobr, ar gyfer gwarbacwyr a selogion chwaraeon awyr agored.

Bydd Mohamed Binesmael, myfyriwr PhD o Sefydliad Peirianneg Gynaliadwy BRE y Brifysgol, yn ymuno â nhw i sôn am Ffyrdd Clyfar ar gyfer Ceir heb Yrwyr, a Guillermo Menedez, fydd yn mynd i’r afael â Dyfodol Deunyddiau Peirianneg.

Bydd eu cyd-beiriannydd, yr Athro Adrian Porch, hyrwyddwr gwaith academaidd ar draws disgyblaethau, yn sôn am ddyfarniadau hynod lwyddiannus Da Vinci myfyrwyr.

Sam Stainton a thîm o Enactus – cymuned fyd eang, nid er elw o arweinwyr myfyrwyr, academaidd a busnes sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio grym gweithredu entrepreneuraidd i drawsnewid bywydau – sy’n cwblhau’r amlserlen yn nigwyddiad nos Fercher (18 Mawrth).

“Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i arweinwyr busnes gwrdd â myfyrwyr entrepreneuriaidd anhygoel ac ymchwilwyr ifanc gwych sydd â syniadau all newid ein planed," meddai Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae’r noson hon, sy’n agored i bawb, yn cynnig cyfle gwirioneddol i gael gwybod rhagor am y modd y gallwn ddatblygu arloesedd ar draws y Brifysgol, a sut y gall eich sefydliad weithio gyda ni i wireddu syniadau. Bydd astudiaethau achos yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o weithgareddau a busnesau a ddatblygwyd gan ein myfyrwyr a’n graddedigion, a byddwn yn dangos sut maen nhw, fel chithau, yn cael effaith wirioneddol ar draws y byd gyda chymorth sefydliadau eraill.”

Mae'r digwyddiad, a gynhelir rhwng 18.30 a 20.30 yn adeilad Optometreg y Brifysgol, yn cynnwys lluniaeth ysgafn a chyfle i rwydweithio ar ôl y digwyddiad.

Mae'n rhan o Ŵyl Arloesedd y Myfyrwyr yn y Brifysgol, sy’n para wythnos, a ddyluniwyd i fod yn llwyfan ar gyfer syniadau gwych gan fyfyrwyr, a ffyrdd newydd o weithio.

I archebu tocyn, ewch i'r digwyddiad ar Eventbrite.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.