Ewch i’r prif gynnwys

Rhagoriaeth addysgu

6 Mawrth 2018

Book cover
A Practical Guide to Studying History

Mae arbenigedd ysgolheigion Prifysgol Caerdydd mewn datblygu’r genhedlaeth nesaf o haneswyr wedi’i gydnabod gan wobr nodedig.

Canllaw ymarferol i astudio hanes: Nod Sgiliau ac Ymagweddau – Skills and Approaches yw pontio’r bwlch rhwng addysg bellach ac addysg uwch, gan roi sail gref i fyfyrwyr i’w helpu gyda’u graddau. Cyfrannodd 14 o haneswyr o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd i’r cyhoeddiad, sy'n rhychwantu hanes hynafol, canoloesol, modern cynnar a modern.

Mae'r llyfr wedi'i ganmol yn eang mewn cylchoedd academaidd. Yn ddiweddar enillodd Werslyfr Gorau 2018 yng nghategori Dyniaethau gwobrau PROSE yn Washington DC. Mae gwobrau PROSE, a gyflwynir yn flynyddol gan Adran Cyhoeddi Proffesiynol ac Ygolheigaidd Cymdeithas Cyhoeddwyr America (yr Association of American Pubishers) ers 1976 yn cydnabod llyfrau proffesiynol ac ysgolheigaidd nodedig, cyfeirlyfrau, cyfnodolion a chynnwys electronig.

Yn ôl Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yn yr Ygol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yr Athro Keir Waddington: “Rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr sy’n ystyried gwneud gradd Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu hysbrydoli gan ein brwdfrydedd ac ymrwymiad i addysgu, a ddangosir yn y gwerslyfr awdurdodol hwn. Mae'n arddangos o'r hyn yr ydym fel adran yn ei wneud bob dydd – darparu’r addysg orau posibl mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol.”

Fel y radd Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r llyfr yn arwain myfyrwyr ar sut i fynd i'r afael â’r disgyblaeth yn ogystal â dulliau methodolegol y gellir eu mabwysiadu, cysyniadau dadleuon hanesyddol a’r amrywiaeth o gynhyrchwyr a chynulleidfaoedd hanesyddol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sgiliau astudio, gan gynnwys cwestiynau defnyddiol ynghylch astudio, a rhestrau darllen pellach.

Wedi’i ysbrydoli a’i olygu gan Dr Tracey Loughran, mae’r canlynol ymhlith cyfranwyr y canllaw: Dr Lloyd Bowen, Dr Federica Ferlanti, Professor Helen Nicholson, Professor Kevin Passmore, Dr Toby Thacker, Dr Shaun Tougher, Professor Keir Waddington, Professor Garthine Walker, Dr Stephanie Ward, Dr Mark Williams, Dr Martin Wright, a Dr David Wyatt.

Yn ôl yr Athro Waddington: “Mae haneswyr Prifysgol Caerdydd oll yn arbenigwyr yn eu meysydd, felly mae ymchwil ac addysgu yn mynd law yn llaw. Rydym yn ceisio annog a meithrin haneswyr addawol, all gymryd y meddwl beirniadol maent yn ei feddu a’i gymhwyso i ba bynnag gyrfa y maent yn dewis.”

Rhannu’r stori hon