Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddu Dysgwr y Flwyddyn

26 Chwefror 2018

Eleni, bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2018 yn derbyn tlws arbennig wedi’i gyflwyno gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Lansiwyd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn nigwyddiad Cwrs Calan, Dysgu Cymraeg Caerdydd, ar ddydd Sadwrn 13 Ionawr. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd rhwng 3 ac 11 Awst 2018.

Dywed Lowri Bunford-Jones, Rheolwr Cymraeg i Oedolion, Ysgol y Gymraeg: “Rydym yn falch iawn i gefnogi cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni trwy gyfrannu’r tlws bydd yr enillydd yn ei dderbyn a thlysau ar gyfer y tri arall fydd yn cyrraedd y rownd derfynol.

“Roedd hi’n fraint cynnal lansiad y gystadleuaeth yn ystod ein Cwrs Calan ac i’n dysgwyr cyfredol gael gweld y math o gefnogaeth ac edmygedd sydd yng Nghymru at ymdrechion y rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg fel oedolion. Mae ein dysgwyr yn dewis dysgu’r Gymraeg am amryw o resymau, boed i gyfathrebu gyda theulu a ffrindiau neu at ddibenion y gweithle ond wrth ddysgu’r iaith maent yn dod yn rhan o gymuned ehangach.

Ychwanegodd: “Gyda tharged y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 mae hi’n dra phwysig bod cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg yn cynyddu. Mae Ysgol y Gymraeg yn chwarae ei rhan, o raddau israddedig ac ôl-raddedig ffurfiol i raglen Cymraeg i Bawb, sydd yn caniatáu i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd dysgu yn rhad ac am ddim, a rhaglenni Cymraeg i Oedolion a Chymraeg yn y gweithle.”

Mae ffurflen gais cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, sydd yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu’r Gymraeg at safon uchel, ar gael ar wefan yr Eisteddfod. Y dyddiad cau yw 31 Mawrth.

Cewch ragor o wybodaeth ar raglenni Ysgol y Gymraeg ar wefan yr Ysgol neu ewch i wefan Dysgu Cymraeg i ddarllen am gyrsiau Cymraeg i oedolion yng Nghaerdydd.

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch ragor am y cyrsiau Cymraeg i Oedolion sydd ar gael.