Ewch i’r prif gynnwys

Prydeindod – Carwriaeth Japaneaidd

19 Chwefror 2018

Dreamton
Dreamton in Kameoka

Sut mae llenyddiaeth ffantasi plant – ac arddull 'bocs siocled' ardal y Cotswolds – wedi ysbrydoli twristiaeth ffantasi Japan

Mae llenyddiaeth ffantasi plant o Brydain wedi cael lle pwysig yn niwylliant poblogaidd Japan ers tro, ac ar ganfyddiad ehangach y wlad o Brydain. Bydd ymchwil newydd gan yr arbenigwr mewn llenyddiaeth plant Dr Catherine Butler yn archwilio diddordeb pobl Japan mewn Prydeindod, o ysgolion hudol i dai crand yng nghefn gwlad, drwy ganolbwyntio ar dwristiaeth yn ardal y Cotswolds.

Mae'r ymchwil yn wreiddiol am ei bod yn cyfuno astudiaethau diwylliannol cymharol, llenyddiaeth plant, a thwristiaeth. Mae clasuron llenyddiaeth plant Prydain dros y canrifoedd, fel Gulliver's Travels, Alice in Wonderland a Peter Rabbit, yn adnabyddus iawn yn Japan. Mae ffuglen o Brydain yn aml yn ysbrydoli stiwdios ffilmiau animeiddio fel Studio Ghibli a Studio Ponoc mewn anime sy'n cynnwys Mary and the Witch’s Flower (2017) a When Marnie Was There (2014), neu Arrietty (2010) a Howl’s Moving Castle (2004). Mae ffantasi cyfoes o Brydain, fel cyfres Harry Potter, yn parhau i gael dylanwad sylweddol ar ffuglen gyfatebol yn Japan.

Mae Japan wedi efelychu ffantasi o Brydain drwy ffafrio lleoliadau 'bocs siocled', yn enwedig y Cotswolds yn ne-orllewin Lloegr. Mae'r ymchwil newydd hon yn mynd y tu hwnt i nodi dylanwad llenyddiaeth plant o Brydain ar ddiwylliant poblogaidd Japan, ac yn canolbwyntio ar effaith ffilmiau a chyfryngau o Brydain ar arddull animeiddio Japan a thwristiaeth cynnwys, y math newydd o dwristiaeth sydd wedi'i hysbrydoli gan ffilmiau a'r cyfryngau.

Bydd y gwaith newydd hwn yn archwilio safleoedd Prydeinig yn Japan sy'n cynrychioli nodweddion Prydeindod. Bydd cymariaethau rhwng Bath, Bourton-on-the-Water, Castell Combe, Cheltenham, Cirencester, Lacock a Moreton-in-Marsh ac atyniadau a chyrchfannau â thema yn Japan, gan gynnwys Caffi Swallowtail yn Ikebukuro, Bwyty Alice's Fantasy yn Shibuya yn Tokyo, a British Hills yn Fukushima, Pentref Blodeuog Yufuin yn Oita, Dreamton yn Kameoka, a chopi o eglwys Brockhampton yng Ngwesty Grasmere Monterey yn Osaka.

"Mae gen i ddiddordeb mewn sut mae pobl Japan yn defnyddio delweddau'r Cotswolds yn ddiwylliannol ac yn greadigol, a'r elfen "llyfr lluniau" sydd ymhlith y ffactorau mwyaf sy'n denu twristiaid o Japan i'r ardal; ond mae gen i ddiddordeb hefyd mewn sut mae trigolion, busnesau a chwmnïau twristiaeth y Cotswolds wedi dylanwadu ar yr ardal i gyd-fynd â'r defnydd dychmygol hwn i ryw raddau" eglurodd Dr Butler.

Mae'r ymchwil yn ychwanegu at ymchwiliadau diweddar i ddelweddau o Brydain mewn Anime Japaneaidd, yr arddull ffilmiau ac animeiddio Japaneaidd, a rannwyd mewn darlithoedd cyhoeddus y llynedd mewn Prifysgol Menywod Gristnogol Tokyo a Llyfrgell y Diet Cenedlaethol yn Tokyo, yn canolbwyntio ar Arrietty, addasiad Studio Ghibli yn 2010 o ffantasi plant Prydeinig.

Bydd hefyd yn mynd i'r afael â sut caiff Prydain ei chynrychioli mewn llyfrau tywys o Japan, yn myfyrio ar sylwadau pob dydd ar safleoedd twristiaeth fel Trip Advisor, ac yn archwilio profiad arbenigwyr o Brydain o'r farchnad twristiaeth yn y Cotswolds.

Fel rhan o'r prosiect bydd Dr Butler yn cyflwyno papurau yn Japan yng Nghymdeithas Japan ar gyfer Astudio Llenyddiaeth Plant Prydain (Mai) a Symposiwm Twristiaeth Cynnwys (Mehefin), y ddau ohonynt yn Tokyo.

Mae Dr Catherine Butler yn arbenigwr mewn llenyddiaeth plant a barddoniaeth Renaissance, a hi yw golygydd cysylltiol The Journal of Children's Literature in Education ac awdur chwe nofel i blant a phobl ifanc.

Rhannu’r stori hon