Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Enw Cyfarwyddwr Sefydliad Newydd

8 Chwefror 2018

Professor Matt Smalley stood in lab

Dechreuodd y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd y flwyddyn gyda Chyfarwyddwr newydd, fydd yn arwain y Sefydliad yn ei ymchwil arloesol i fôn-gelloedd canser.

Penodwyd yr Athro Matt Smalley, sydd wedi gweithio yn y Sefydliad er 2012, yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ddiwedd y llynedd.

Bydd Matt yn adeiladu ar waddol y Cyfarwyddwr blaenorol, yr Athro Alan Clarke, a fu farw, yn anffodus, yn 2016.

Dywedodd Matt: "Teimlodd pawb yn y Sefydliad golled garw ar ôl Alan, oherwydd yn ogystal â bod yn wyddonydd gwych, roedd yn gydweithiwr gwerthfawr.

"Mae'n anrhydedd i fi gael dilyn Alan yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, a pharhau ei weledigaeth i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil bôn-gelloedd canser.

"Caiff ethos Alan o ymchwil cydweithredol a meithrin talent gyrfa gynnar ei gynnal o hyd yn y Sefydliad, ac mae ein llwyddiant hyd yma i raddau helaeth yn deillio o’r gwerthoedd hynny.

"Byddwn yn parhau i dyfu fel Sefydliad, adeiladu ar ei waith, a datblygu ein diddordebau ymchwil ymhellach."

Dan arweiniad Matt, nod y Sefydliad fydd parhau â'i waith, ehangu ei wybodaeth am swyddogaeth bôn-gelloedd canser mewn canser a throsi hyn yn gymwysiadau clinigol, ac yn y pen draw drawsnewid y modd y caiff canser ei drin.

Elfen ganolog o weledigaeth Matt ar gyfer y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yw lledu ehangder yr ymchwil yn y Sefydliad a gwreiddio ei wyddoniaeth bôn-gelloedd canser o fewn parthau ymchwil canser ehangach yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Matt:  Mae'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd wedi'i wreiddio'n falch mewn rhwydwaith o ymchwil canser ar draws Prifysgol Caerdydd. Mae ein cylch gorchwyl penodol yn cyfrannu ymchwil sy'n arwain y byd o fewn nod Caerdydd o gael ei chydnabod yn arweinydd cenedlaethol ac yn chwaraewr byd-eang mewn ymchwil canser.

"Ein gweledigaeth ar gyfer y sefydliad yw adeiladu ar ein harbenigedd yn y maes hwn, parhau i drosi ein gwaith yn gymwysiadau clinigol yn ogystal ag ehangu gorwelion ein hymchwil mewn bôn-gellodd canser a chanser.

"Credwn fod ein hymchwil arloesol yn gwneud gwahaniaeth i'r dirwedd ymchwil hon, ac y gall ein gwaith drawsnewid y ffordd rydym ni'n trin canser."

Rhannu’r stori hon