Arolwg ar agwedd y cyhoedd at farwolaeth a marw yng Nghymru
2 Chwefror 2018
Rydym yn dîm o ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, a hoffen ni gael gwybod beth yw agwedd pobl tuag at farwolaeth a marw yng Nghymru.
Rydym am gael barn pobl a chael gwybod sut maent yn teimlo am farwolaeth a marw. Rydym am ddeall beth mae pobl yn ei wybod a beth sydd orau ganddynt o ran materion sy'n ymwneud â marwolaeth a marw. Hoffem wybod hefyd a ydych chi a’ch anwyliaid wedi gwneud unrhyw gynlluniau ynglŷn â hyn.
Nid oes rhaid i chi gymryd rhan yn yr arolwg hwn a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai neu unrhyw un o'r cwestiynau yn yr arolwg. Nid oes atebion cywir nac anghywir.
Gyda lwc, bydd y canfyddiadau yn helpu gwasanaethau i gael gwell dealltwriaeth o ganfyddiad y cyhoedd ynghylch marwolaeth a marw er mwyn datblygu gwasanaethau gwybodus. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn annog pobl i siarad mwy am farwolaeth a marw.
Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau'r astudiaeth ar ffurf adroddiadau cyffredinol a phapurau academaidd. Ni chaiff eich enw ei ddefnyddio unrhyw le.
Byddwn yn defnyddio ac yn rheoli'r holl ddata yn unol â Deddf Diogelu Data Cyffredinol 1998 a ddefnyddir yn y DU ar hyn o bryd.
Mae'r arolwg yn cau ddydd Mercher 7 Mawrth 2018.
Os hoffech gael fersiwn Saesneg o’r arolwg neu ofyn cwestiwn cysylltwch â: