Ewch i’r prif gynnwys

Academig yn sicrhau grant ERC o bwys

15 Ionawr 2018

Image of people walking overlaid with computer code
Bydd y prosiect yn trin a thrafod ein dealltwriaeth o gasglu data mewn perthynas â chyfiawnder cymdeithasol.

Mae Dr Lina Dencik o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol wedi ennill Grant Cychwyn nodedig gwerth €1.4M gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd.

Bydd y prosiect pum mlynedd arloesol, sy'n cychwyn y mis hwn, yn ymchwilio i gasglu a phrosesu data ar draws bywyd cymdeithasol. Bydd yn archwilio effaith y prosesau hyn ar gymunedau penodol a'r goblygiadau ar gyfer hawliau cymdeithasol ac economaidd.

Bydd y prosiect yn cyflogi dau fyfyriwr PhD gyda chefndir mewn gwyddorau cymdeithasol a dau gynorthwy-ydd ymchwil ôl-doethuriaeth, y cyntaf gydag arbenigedd mewn gwyddoniaeth data a'r ail gydag arbenigedd ym maes polisi a chyfraith.

Dywedodd Dr Dencik o’r prosiect, "Bydd y prosiect yn edrych ar ystyr cyfiawnder cymdeithasol mewn oes casglu data. Er enghraifft, mae pwyslais cynyddol yn cael ei roi ar y ffaith nad yw prosesau data yn 'wastad' ac nad ydynt yn cynnwys pawb yn yr un ffordd. Yn hytrach, maent yn rhan o system 'didoli cymdeithasol', gan greu categorïau newydd o ddinasyddion, sydd wedi'u seilio ar orchymyn sy'n dod i'r amlwg o’r rhai hynny 'sydd gyda' neu 'sydd heb' rhwng proffilwyr data a phynciau data.

"Mewn cyd-destun o'r fath, mae'n hanfodol bod cwestiynau cyfiawnder cymdeithasol yn cael eu hastudio mewn perthynas â chasglu data a defnyddir y canfyddiadau i lywio prosesau yn y dyfodol."

Bydd y prosiect, sy'n cael ei ystyried yn arloesol mewn sawl ffordd, yn herio dealltwriaeth ddeallusol o ddata trwy amlygu ei berthynas â hawliau cymdeithasol ac economaidd. Mae hefyd yn chwalu ffiniau disgyblu mewn dealltwriaeth o dechnoleg, pŵer, gwleidyddiaeth a newid cymdeithasol.

Bydd y prosiect hefyd yn elwa'n sylweddol o ymdrechion ymchwil Dr Arne Hintz a Dr Joanna Redden, cyd-gyfarwyddwyr gyda Dr Dencik o Labordy Cyfiawnder Data a sefydlwyd yn ddiweddar.

Yn ystod y prosiect, bydd y tîm ymchwil yn cynhyrchu cyfres gynhwysfawr o ddeunaw o gyflawniadau sy’n ymwneud ag academyddion ac ymarferwyr. Trwy hynny byddant yn sicrhau bod y canfyddiadau'n ymgysylltu'n ymarferol ac yn effeithio'n gadarnhaol ar y sefydliadau a'r cymunedau sydd wrth wraidd y prosesau hyn sy'n cael eu gyrru gan ddata.

Bydd adnoddau ac allbynnau sy'n gysylltiedig â'r prosiect ar gael ar y llwyfan sy'n ymroddedig i'r prosiect, a gaiff ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.