Ewch i’r prif gynnwys

Rôl y Brifysgol mewn cynhadledd feddalwedd ryngwladol boblogaidd

28 Mai 2015

Django 4

Mae gan Brifysgol Caerdydd ran fawr i'w chwarae mewn cynhadledd fyd-eang, sydd wedi gwerthu allan, ar gyfer defnyddwyr meddalwedd arloesol sy'n cynnal llawer o wefannau mwyaf adnabyddus y byd

Cynhelir DjangoCon Europe 2015 yn y Brifysgol ac yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, rhwng 31 Mai a 5 Mehefin.

Mae safleoedd adnabyddus fel Instagram, Pinterest ac Eventbrite yn defnyddio Django, sef fframwaith rhaglenni gwe ffynhonnell agored sydd yn rhad ac am ddim.

Bydd dros 350 o bobl o bob cwr o'r byd, o UDA i dde Affrica, yn cymryd rhan yn y gynhadledd Django fwyaf erioed.

Mae Django wedi'i hysgrifennu yn iaith rhaglennu rhad ac am ddim Python, ac mae wedi gweld twf aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf. Bellach, mae ganddi ddefnyddwyr mewn dros 160 o wledydd, a chaiff ei defnyddio a'i haddysgu'n eang yn y Brifysgol.

Daniele Procida yw prif drefnydd y digwyddiad, gynt o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol.

Dywedodd Mr Procida, sy'n dal i fyw yng Nghaerdydd er ei fod bellach yn gweithio i asiantaeth y we yn y Swistir: "Mae'n ddigwyddiad mawr ar gyfer Caerdydd a'r Brifysgol, ac rwy'n credu y bydd pobl yn mynd adref gydag atgofion melys iawn."

Mae rôl y Brifysgol yn allweddol, wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal yn Adeilad Bute a'r Prif Adeilad.

Mae sawl un o aelodau'r pwyllgor trefnu naill ai'n staff neu'n fyfyrwyr y Brifysgol, ac mae llawer o'r siaradwyr yn dod o'r Brifysgol hefyd.

Yn ogystal, mae Swyddfa'r Is-Ganghellor wedi ariannu ysgoloriaethau i grŵp o fyfyrwyr fynychu'r digwyddiad cyfan, sy'n para chwe diwrnod.

Bydd un aelod o staff a dau fyfyriwr o Brifysgol Namibia yn mynychu fel rhan o Brosiect Phoenix, un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt mewn meysydd gan gynnwys iechyd, addysg a lles.

Mae Prosiect Phoenix, dan arweiniad yr Athro Judith Hall, yn gweithio gyda Phrifysgol Namibia – ar y cyd â Llywodraeth Cymru – ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys iechyd y fam, gwyddoniaeth a chyfathrebu.

Ymunodd Mr Procida â phrosiect Phoenix wrth iddo drefnu cynhadledd Python lwyddiannus yn Namibia yn gynharach eleni.

Er bod y digwyddiad yng Nghaerdydd eisoes wedi gwerthu allan, cynhelir diwrnod agored yn y Prif Adeilad ddydd Sul, 31 Mai, lle gall pobl gofrestru ar gyfer cyfres o weithdai, arddangosiadau a sgyrsiau rhad ac am ddim.