Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol y Gymraeg yn croesawu Llysgennad Estonia

22 Mai 2015

Ei Ardderchogrwydd Lauri Bambus, Llysgennad Estonia

Croesawodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Ei Ardderchogrwydd Mr Lauri Bambus, Llysgennad Estonia i'r Brifysgol am ddarlith ar Ddydd Gwener 22ain Mai 2015.

Yn ystod ei ymweliad â Chymru buodd Llysgennad Bambus yn cynnal nifer o gyfarfodydd, gyda Phrif Weinidog Carwyn Jones, swyddogion llywodraethol ac Arglwydd Faer Caerdydd.  Roedd hefyd yn bresennol yng Ngŵyl Gerdd Bro Morgannwg, a oedd yn dathlu'r cyfansoddwr o Estonia,  Arvo Pärt, gyda pherfformiadau gan Gerddorfa Siambr Tallinn a Chôr Siambr Ffilharmonig Estonia.

Roedd mwy na 40 o bobl yn bresennol yng nghyflwyniad Llysgennad Bambus, a gyflwynodd ei wlad, ei phobl a'i diwylliant. Nododd y Llysgennad yr hyn sydd yn gyffredin rhwng Estonia a Chymru, eu sefyllfaoedd fel cenedlaethau Ewropeaidd llai, eu hunaniaeth ddiwylliannol gref a pharhaus a'u hieithoedd brodorol balch.

Wrth groesawu'r Llysgennad i Gaerdydd, dywedodd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, aelod o Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio Ysgol y Gymraeg: "Mae'n bleser cael croesawu Llysgennad Bambus i Ysgol y Gymraeg. Rydym yn diolch iddo am ymweld â ni yn ystod ei daith brysur.

"Mae gan Estonia hanes diddorol o ran ei thwf a'i datblygiad economaidd a gwleidyddol ar ôl ail ennill annibyniaeth yn 1991 a dod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd a NATO yn 2004. Mae wedi bod yn wych clywed mwy am y wlad heddiw a'r tebygrwydd rhyngddi hi a Chymru. Mae treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Estonia, sy'n gyfuniad o ddylanwadau brodorol ac allanol, yn cynnwys traddodiad gwerin cryf o ran llenyddiaeth a chaneuon. Mae hyn yn berthnasol iawn i ni yma yng Nghymru, ac mae'n un o feysydd arbenigol yr Ysgol. Yn yr un modd, rydym yn nodi sefyllfa a chryfder yr iaith frodorol yng nghymdeithas Estonia, sydd yn perthyn i'r ieithoedd finnougric, ac sydd yn cael ei siarad gan 1.2miliwn o bobl."

Wrth drafod ei ymweliad â Chymru a Phrifysgol Caerdydd, dywedodd y Llysgennad: "Mae'n bleser gennyf ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn swyddogol gyda fy nghydweithwyr o'r Llysgenhadaeth yn ystod Gŵyl Gerdd Bro Morgannwg. Yn enwedig gan fod yr ŵyl yn dathlu 80 mlynedd ers genedigaeth Arvo Pärt, y cyfansoddwr byd enwog o Estonia. Roedd yn bleser mawr gennyf gyflwyno Côr Siambr Ffilharmonig Estonia a Cherddorfa Siambr Tallinn i bobl Cymru, er mwyn rhoi cyfle iddynt glywed cerddoriaeth o Estonia. Cefais gyfarfodydd byr ac agored gyda chynrychiolwyr penodol o Gaerdydd a Chymru, yn ogystal â thrafodaethau diddorol yn Ysgol y Gymraeg. Rwy'n hynod o ddiolchgar am y croeso cynnes a gefais gan bobl Cymru ac rwy'n gobeithio cael cyfle i ymweld â Chymru eto yn fuan."

Penodwyd Llysgennad Bambus i'w swydd ym mis Awst 2014 ac mae ganddo yrfa ddiplomataidd hir a nodedig a ddechreuodd yn adran Gonsylaidd Gwasanaeth Tramor Estonia. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gweithio yng Ngwlad Pwyl, Gwlad Belg a St Petersburg, cyn dod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Gonsylaidd (2007-10) ac yn Is-ysgrifennydd ar gyfer Materion Cyfreithiol a Chonsylaidd (2010-14) ar ôl hynny. Mae'r Llysgennad hefyd yn achrededig fel Llysgennad Swltaniaeth Oman.

Rhannu’r stori hon