Ewch i’r prif gynnwys

2,500 yn cofrestru ar y cynllun 'Ieithoedd i Bawb' cyntaf mewn prifysgol yn y DU

21 Mai 2015

'Languages for All' students
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae dros 2,500 o fyfyrwyr nad ydynt yn astudio cyrsiau iaith ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dysgu iaith newydd yn rhad ac am ddim yn rhan o gynllun blaenllaw i gynyddu symudedd myfyrwyr yn rhyngwladol.
 
Bu cynllun Ieithoedd i Bawb y Brifysgol – yr unig gynllun o'i fath yn y DU – mor boblogaidd yn ei flwyddyn gyntaf fel bod yr adnoddau addysgu am gael eu dyblu, a bydd dwy iaith newydd a dull hunanastudio'n cael eu hychwanegu ati.
 
O dan y cynllun, gall myfyrwyr gofrestru i astudio wyth o ieithoedd yn rhad ac am ddim ochr yn ochr â'u prif radd.
 
Cynigir cyrsiau ar amrywiaeth o lefelau a dwysedd, o ddwy awr i 20 awr yr wythnos, o lefel dechreuwyr i lefel uwch. Mae Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Arabeg, Mandarin a Rwsieg ymhlith yr ieithoedd a gynigir.
 
Mae ffigurau newydd yn dangos bod 75% o'r rhai a gofrestrodd ar Ieithoedd i Bawb yn 2014 yn israddedigion, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn astudio Busnes, y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a'r Biowyddorau. Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg a ddenodd y niferoedd uchaf yn 2014.
 
Cynhelir sesiynau dysgu amser cinio a gyda'r nos fel nad oes gwrthdaro ag astudiaethau'r myfyrwyr. Cynigir cyrsiau dwys rhwng tymhorau, a bydd y dull hunanastudio newydd yn golygu bydd modd dysgu o bell mewn 25 o wahanol ieithoedd.
 
Mae'r cynllun yn rhan o agenda'r Brifysgol i wella cyflogadwyedd myfyrwyr a'u cyfleoedd i ehangu eu gorwelion, ac mae'n rhan o ymgyrch ehangach fel bod 17% o fyfyrwyr yn cael o leiaf pedair wythnos o brofiad dramor erbyn 2017.
 
Bydd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Colin Riordan, yn lansio'r cynllun Ieithoedd i Bawb ar ei newydd wedd mewn digwyddiad ar gyfer staff a myfyrwyr a gynhelir yn Undeb Myfyrwyr y Brifysgol nes ymlaen heddiw (21 Mai).
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mewn marchnad swyddi fyd-eang a chystadleuol, mae cynnig y cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ategu eu hastudiaethau gydag iaith o'u dewis yn rhoi mantais bendant iddynt ac yn helpu eu cyflogadwyedd a'u hymwybyddiaeth ryngwladol. Ni yw'r unig Brifysgol yn y DU sy'n cynnig hyfforddiant iaith ledled y Brifysgol yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad at agenda flaengar i alluogi ein myfyrwyr i fanteisio ar gyfleoedd y tu allan i'r DU."
 
Dywedodd Cyfarwyddwr Ieithoedd i Bawb, Dr Catherine Chabert: "Er gwaethaf y gostyngiad yn y nifer sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern ledled y DU, a'r cryn sylw a roddwyd i hyn, mae llwyddiant y rhaglen yn profi bod awydd mawr ymysg myfyrwyr i ddysgu ieithoedd ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Cafodd hyn ei atgyfnerthu ymhellach gan arolwg annibynnol diweddar Cyngor Ieithoedd Modern y Prifysgolion.

"Yn amlwg, mae cynnig cyrsiau iaith dewisol mewn prifysgolion yn cael ei ystyried fel elfen hanfodol o'r agendâu rhyngwladoli a chyflogadwyedd, ac mae'r nifer eithriadol a gofrestrodd pan lansiwyd Ieithoedd i Bawb am y tro cyntaf yn profi hyn. Rydym bellach yn ymateb i'r galw sylweddol yma drwy gryfhau'r rhaglen fel ei bod yn bodloni anghenion iaith pob myfyriwr.

"Fel prifysgol, rydym yn falch o fod ar flaen y gad o ran addysgu ieithoedd. Rydym yn creu brwdfrydedd at ieithoedd ymhlith myfyrwyr ac yn rhoi sgiliau fydd yn golygu eu bod yn sefyll allan yn y farchnad swyddi."

Meddai Laura McAdam, myfyriwr Cemeg trydedd flwyddyn sy'n astudio Siapanaeg drwy Ieithoedd i Bawb: "Gall dysgu iaith ochr yn ochr ag astudio gradd gynnig cyfleoedd newydd i chi. Wrth gwrs, mae cael hynny ar eich CV yn bwnc trafod gwych gyda chyflogwr. Gall gynnig cyfleoedd ym myd gwaith hefyd - er enghraifft, os oes rhywbeth ar gael yn Siapan ac mae gen i ddealltwriaeth dda o Siapanaeg, mae hynny'n amlwg yn mynd i fod o fantais i mi. Mae gallu dysgu'r iaith mewn cyfnod byr yn fantais hefyd, ac mae'n gwneud i mi deimlo fy mod wedi cyflawni llawer."

Rhannu’r stori hon