Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect yn defnyddio diwylliant i fynd i'r afael â thlodi

21 Mai 2015

Woman looking through mobile phone at graffiti

Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner allweddol i brosiect arloesol sy'n manteisio ar bŵer diwylliant er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Nod rhaglen Trechu Tlodi Trwy Ddiwylliant Llywodraeth Cymru yw ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion na fyddai fel arfer yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant.

Prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, Cymunedau Iach, Pobl Iachach, fydd yn arwain Ardal Arloesi Caerdydd, gan ddatblygu gwaith allgymorth diwylliannol parod.

Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn hynod falch o'n rôl bwysig yn y prosiect ysbrydoledig hwn gan Lywodraeth Cymru.

"Fel Prifysgol, rydym yn cydnabod pŵer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth ysgogi newid yn ein cymunedau.

"Bydd ein dylanwad yn adeiladu ar gysylltiadau cryf sydd eisoes yn bodoli mewn cymunedau ym Merthyr Tudful a Chaerdydd, er mwyn cael effaith gadarnhaol ar iechyd, addysg a lles."

Bydd partneriaid lleol a chenedlaethol – gan gynnwys amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd – a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf, sy'n cefnogi'r bobl sydd fwyaf dan anfantais yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, yn dod at ei gilydd trwy'r Brifysgol.

Bydd y gwaith yn sicrhau bod trigolion ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghaerdydd (Trelái, Caerau, y Tyllgoed, Butetown, Glan yr afon a Grangetown) a Gogledd Merthyr (y Gurnos a Dowlais) yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau, cyrsiau a chyfleoedd creadigol eraill i ennill sgiliau a hyder.

Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys menter treftadaeth CAER barhaus Dr Dave Wyatt, i archwilio bryngaer o Oes yr Haearn yng Nghaerdydd, a'i chloddio. Mae'r fenter hon wedi ennill gwobrau ymgysylltu cyhoeddus cenedlaethol.

Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Uwchradd Glyn Derw a Choleg Cymunedol Michaelston ennill gwobrau yn nigwyddiad lansio Trechu Tlodi Trwy Ddiwylliant yn Butetown, am eu gwaith ar brosiect CAER.

Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt mewn meysydd gan gynnwys iechyd, addysg a lles.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.

Fel rhan o raglen gyffredinol Llywodraeth Cymru, bydd chwech o Ardaloedd Arloesi yn Abertawe, Wrecsam, Gwynedd, Caerdydd, Casnewydd a Thor-faen yn cael eu sefydlu i ddechrau.

Cefnogir yr ardaloedd hyn i dreialu dulliau newydd a fydd yn rhoi diwylliant wrth wraidd eu gwaith gyda chymunedau difreintiedig.

Yn ôl Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, bydd Cymru'n esiampl i weddill y DU drwy ddefnyddio diwylliant i drechu tlodi.

Meddai: "Yn gynharach eleni, nodais fy uchelgais mai Cymru fyddai'r genedl fwyaf creadigol yn Ewrop, ac i wneud hyn, rhaid i ni sicrhau bod diwylliant ar gael i  bawb.

"Mae cymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant yn arwain at fanteision addysgol pellgyrhaeddol – mae'n gwella gwybodaeth, llythrennedd a sgiliau. Dyma pam yr ydym yn creu llwybr unigryw yng Nghymru, ac yn gosod diwylliant wrth wraidd ein gwaith mewn cymunedau difreintiedig."

Bydd y chwe Ardal Arloesi yn gweithredu am flwyddyn beilot (2015-2016), gyda'r bwriad o'u hymestyn yn ehangach.