Ewch i’r prif gynnwys

Apwyntiad newydd ar gyfer rôl Llywodraethu ar ôl Brexit

27 Tachwedd 2017

UK and EU flags

Penodwyd yr Athro Daniel Wincott, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, i rôl Cydgysylltydd Arweinyddiaeth, Ymchwil Llywodraethu a Brexit, ar gyfer 25 o grantiau blaenoriaeth Brexit a gomisiynwyd yn ddiweddar gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Mae'r grantiau hyn yn ariannu prosiectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar gynnydd proses y DU yn gadel yr Undeb Ewropeaidd, a chanlyniadau hynny. Bydd yn helpu i gynyddu effaith y buddsoddiadau hyn ac yn cyfleu’r ymchwil i lunwyr polisi, gweision sifil, Aelodau Seneddol, yn ogystal â'r cyhoedd yn gyffredinol.

Yn ogystal, bydd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad deallusol y portffolio ymchwil ehangach yn y maes hwn, yn ogystal â gosod cwmpas a chydlynu gweithgarwch ar gyfer y rhaglen sydd ar y gweill, Llywodraethu ar ôl Brexit.

Caiff y prosiectau, sy’n amrywio o naw i 18 mis, eu hariannu fel rhan o fenter yr ESRC, Y DU mewn Ewrop sy’n newid, sy’n cynnig ffynhonnell awdurdodol at ddibenion ymchwil annibynnol ym maes y gydberthynas rhwng y DU a’r UE.

Yn ôl yr Athro Wincott: “Mae’n bleser gennyf gymryd y swydd Cydgysylltydd Arweinyddiaeth, Ymchwil Llywodraethu a Brexit.  Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r 25 o brosiectau grantiau blaenoriaeth Brexit, i sicrhau bod eu gwerth ar y cyd, ac effaith eu dadansoddiadau amhrisiadwy, yn cyrraedd eu llawn botensial. Mae'r prosiectau hyn yn gwella sylfaen ymchwil ar gyfer y DU o fewn menter Ewrop sy’n Newid. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Anand Menon, a’r Dirprwy Gyfarwyddwr sydd newydd ei benodi, Simon Usherwood, i adeiladu ar y fenter hon a gwella ei gwaith ymhellach.

“Fodd bynnag, wrth ein trafodaethau ar gyfer gadael yr UE fynd rhagddynt, bydd prosesau Brexit yn cael effaith ddofn ar y DU a’r modd y caiff pob un ohonom ein llywodraethu. Bydd y rhaglen sydd ar y gweill gan yr ESRC, Llywodraethu ar ôl Brexit, yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd a grëir wrth i’n perthynas gyda’r UE newid. Mae'n cynnig cyfle cyffrous ar gyfer ymchwil gwyddor cymdeithasol sylfaenol er mwyn ysgogi dadl gyhoeddus, a helpu’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn y cyd-destun newydd hwn. Teimlaf mai braint yw bod wedi cael fy newis i ddylunio ac arwain y rhaglen ESRC newydd hon.”

Rhannu’r stori hon

Nod blog Brexit a Chymru yw llywio ac annog trafodaethau a gwaith dadansoddol adeiladol am faterion sy'n gysylltiedig â Chymru ac ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.