Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu cydnabod mewn cystadleuaeth wyddoniaeth fyd-eang

21 Tachwedd 2017

biosciences and chemsitry students in boston 2017

Mae myfyrwyr o Ysgol y Biowyddorau a’r Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod mewn cystadleuaeth fyd-eang am ddefnyddio planhigion myglys i helpu i greu triniaeth newydd at gyfer clefyd Graves.

Defnyddir planhigion fwyfwy er mwyn cynhyrchu therapiwtegion, gan gynnwys brechiadau Polio ac Ebola. Mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi defnyddio’r cysyniad hwn er mwyn datblygu therapiwtegion at gyfer clefyd thyroid mewn prosiect naw mis.

Ym mis Tachwedd, ehedodd tîm Caerdydd_Cymru i’r Unol Daleithiau er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth Peiriant Peirianneg Enetig ryngwladol (iGEM) i gystadlu yn erbyn 300 o dimoedd o bedwar ban y byd ac arddangos eu gwaith.

Cydweithiodd Helen Davies, Sarah Clinton, Neil Coates, Ryan Coates, Jade Hughes, Emily Heath, a Thomas Sage ar brosiect i geisio defnyddio planhigion myglys i gynhyrchu protein newydd wedi ei ddylunio er mwyn trin symptomau clefyd Graves.

Gwnaethpwyd argraff dda ar tri beirniaid iGEM gan eu prosiect ymchwil, ac fe ddyfarnwyd iddynt safle yn y 4 uchaf yn y gystadleuaeth ‘Therapeutics Track’ israddedig hynod gystadleuol.

Cafodd Caerdydd_Cymru ei ariannu a’i gefnogi gan Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Cemeg a CUROP ym Mhrifysgol Caerdydd.

Daethpwyd â thîm Caerdydd ynghyd a’i oruchwylio gan Dr Geraint Parry, biolegydd celloedd planhigion sy’n gweithio ar grant GARNet o fewn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dr Parry: "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau safle terfynol gwych yn y ‘Therapeutics Track’, am ei fod yn gwir adlewyrchu’r gwaith caled y tîm drwy gydol y flwyddyn.

“Rwyf yn awr yn recriwtio ein tîm ar gyfer 2018. Rydym yn croesawu myfyrwyr o unrhyw faes pwnc i gymryd rhan.”

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Parryg5@caerdydd.ac.uk.

Cewch ddarganfod rhagor am eu prosiect yma: http://2017.igem.org/Team:Cardiff_Wales

Rhannu’r stori hon