Ewch i’r prif gynnwys

Hwb ariannol i gymunedau ymchwil ar lawr gwlad

11 Mai 2015

GW4 logo

Mae cymunedau ymchwil ar lawr gwlad ar draws GW4 – cynghrair rhwng prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, a Chaerwysg – wedi cael hwb o ganlyniad i ymrwymiad ariannol pwysig gan y Gynghrair.

Mae GW4 wedi addo dros £450,000 i sefydlu cymunedau ymchwil traws-sefydliadol a fydd yn mynd i'r afael â heriau ymchwil mwyaf arwyddocaol y byd.

Daw'r arian diweddaraf hwn â chyfanswm buddsoddiad y Gynghrair mewn cymunedau ymchwil ar lawr gwlad i dros £1 miliwn.

Mae'r 12 prosiect llwyddiannus yn ymwneud â meysydd sy'n cynnwys gwyddoniaeth data, cyflog cyfartal, ymchwil cyhyrysgerbydol, clefyd Alzheimer ac anhwylderau niwrolegol a seiciatrig.

Rhaglen Adeiladu Cymunedau GW4 sy'n gyfrifol am yr arian. Mae'r Rhaglen yn dwyn ynghyd academyddion sydd ag arbenigedd ategol o'r pedair prifysgol, i adeiladu cymunedau sy'n canolbwyntio ar waith ymchwil pwysig neu heriau cymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Cyngor GW4: "Hyd yma, mae GW4 wedi buddsoddi dros £1 miliwn i helpu i feithrin cymunedau ymchwil agored a chydweithredol ar lawr gwlad, sy'n mynd i'r afael â rhai o brif heriau'r byd.

"Mae ein harian diweddaraf yn cynrychioli ymrwymiad mawr at wella cydweithredu ar draws GW4, i ddatblygu seilwaith a rennir, ac i sicrhau ein bod yn cynnal ein mantais gystadleuol.

"Bydd y cymunedau ymchwil hyn, sy'n trafod pynciau mor amrywiol ag ymchwil cyhyrysgerbydol a chyflog cyfartal, yn manteisio ar gryfderau pob sefydliad i gyflawni gwaith ymchwil sy'n cael effaith bellgyrhaeddol na ellir ei gyflawni'n unigol."

Dyma'r drydedd rownd o arian sydd wedi'i ddyfarnu gan Gronfa Adeiladu Cymunedau GW4. Mae'r Rhaglen yn cynnwys dwy gronfa sy'n agored i academyddion o bob disgyblaeth ar draws GW4.

Mae Cronfa Cychwynnydd GW4 (Initiator Fund) yn darparu hyd at £20,000 i sefydlu gweithdai a gweithgareddau sy'n helpu i sefydlu cymunedau ymchwil newydd.

Gall cymunedau parod wneud cais am arian o Gronfa Cyflymydd GW4 (Accelerator Fund), sy'n darparu gweithgareddau strwythuredig yng nghyswllt arian sefydlu, gan ddisgwyl y bydd hyn yn arwain at gael arian allanol cynaliadwy yn y dyfodol.

Dywedodd Guy Orpen, Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Bryste a Chadeirydd Bwrdd GW4: "Mae'r math hwn o arian yn hanfodol i sicrhau bod rhwydweithiau ar lawr gwlad yn gallu datblygu o fod yn gysylltiadau anffurfiol rhwng academyddion i fod yn gymunedau ymchwil parhaus a llwyddiannus.

 "Mae'r ffaith ein bod bellach wedi mynd heibio'r garreg filltir ariannu o £1 miliwn yn dangos ymrwymiad Cynghrair GW4 at sefydlu'r rhwydweithiau arbenigedd sy'n helpu i ddatblygu ein heconomi, ac at fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cymdeithas."

Rhannu’r stori hon