Ewch i’r prif gynnwys

Cyfansoddyn bôn-gelloedd gwrthganser newydd yn cael ei ddatblygu

7 Mai 2015

3 scientists look at stem cells

Gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn darganfod cyfansoddyn sy'n gallu ymladd canser mewn sawl ffordd.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu asiant bôn-gelloedd gwrthganser newydd sy'n gallu targedu celloedd ymosodol sy'n ffurfio tiwmorau sy'n gyffredin i ganser y fron, y pancreas, y colon a'r prostad.

Mae cyfansoddyn newydd OH14 wedi cael ei drwyddedu gan Tiziana Life Sciences, sef cwmni fferyllol ym Mhrydain. Caiff nawr ei ddatblygu ymhellach cyn symud ymlaen i dreialon clinigol. Mae astudiaethau rhag-glinigol wedi dangos ei fod yn cael gwared ar nifer o fathau gwahanol o gelloedd canser yn effeithiol, gan gynnwys bôn-gelloedd canser o fiopsïau cleifion canser y fron.

Daw'r datblygiad hwn bron flwyddyn yn union ar ôl i'r un tîm ymchwil gyhoeddi ei fod wedi darganfod moleciwl sy'n gallu gwrthdroi lledaeniad canser malaen y fron. Mae'r tîm amlddisgyblaethol yn cynnwys ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI) Prifysgol Caerdydd a'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Fis Ionawr diwethaf, gyda chymorth y dechnoleg modelu cyfrifiadurol ddiweddaraf, daeth yr ymchwilwyr o hyd i asiant gwrthganser sy'n gallu dadysgogi genyn sy'n hanfodol ar gyfer lledaeniad metastatig canser y fron. Gan ddefnyddio'r un dull cyfrifiadurol, mae'r tîm bellach wedi gallu targedu protein c-FLIP (atalydd FLICE cellog [ensym trawsnewid IL-1β tebyg i FADD]). Mae'n hysbys bod gan y protein hwn rôl allweddol yng nghynhaliaeth a goroesiad bôn-gelloedd canser, a disgrifir hyn mewn gwaith a gyhoeddwyd gan y Sefydliad yn y gorffennol.

"Mae ein proses gyfrifiadurol o sgrinio cyffuriau bellach wedi amlygu dau ddosbarth newydd o asiantau gwrthganser, sy'n targedu'n benodol dau fecanwaith gwahanol a newydd sy'n sail i ganser," meddai Dr Andrea Brancale o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd, sydd wedi arwain y gwaith o ddylunio'r cyfansoddyn.

Yn ôl canfyddiadau'r gwyddonwyr, mae targedu c-FLIP gyda chyfansoddyn OH14 yn gweithio mewn dwy ffordd: yn gyntaf mae'n helpu i ddadysgogi mecanwaith hunanamddiffyn y tiwmor yn erbyn y system imiwnedd, ac yn ail mae'n ei atal rhag aildyfu. Prif swyddogaeth protein c-FLIP yw atal y ligand sy'n gysylltiedig â TNF sy'n achosi apoptosis (TRAIL) rhag lladd celloedd. Mae TRAIL yn foleciwl hanfodol sy'n cael ei greu'n naturiol, ac mae system imiwnedd y corff yn ei ddefnyddio i ladd celloedd sydd wedi'u difrodi neu gelloedd canser.

Yn y pen draw, mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd treialon dynol yn profi pa mor effeithiol yw cyfansoddyn OH14 wrth sensiteiddio celloedd tiwmor a bôn-gelloedd canser i therapïau cyffuriau cyfredol, gan atal tiwmorau rhag tyfu o'r newydd ar ôl triniaeth.

Y cyfansoddyn newydd yw'r asiant bôn-gelloedd gwrthganser arbrofol cyntaf gan y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd. Ar ôl sicrhau trwydded ar gyfer ei fasnacheiddio, mae Tiziana Life Sciences wedi neilltuo arian ar gyfer gwaith ymchwil parhaus a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cyffuriau.

Sefydlwyd Tiziana Life Sciences yn 2014 ar ôl trwyddedu asiant canser BCL3 a ddatblygwyd gan yr un tîm ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dr Richard Clarkson, prif ymchwilydd prosiect c-FLIP ac uwch-ymchwilydd yn ESCRI Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o ehangu ein perthynas â Tiziana Life Sciences. Mae OH14 yn enghraifft o genhedlaeth newydd o asiantau arbrofol wedi'u dylunio i dargedu'r bôn-gelloedd niweidiol mewn tiwmor yn ddethol, gan wella'r rhagolygon hirdymor i gleifion canser."

Dywedodd Gabriele Cerrone, Cadeirydd Tiziana Life Sciences: "Mae'n adeg gyffrous iawn i ni, wrth i ni helpu i ddatblygu'r prosiect hwn ym maes newydd addawol therapiwteg bôn-gelloedd canser, ac mae'n bleser gennym ehangu ein perthynas â Phrifysgol Caerdydd. Mae'r cytundeb hwn yn cryfhau ein portffolio o asedau rhag-glinigol cyffrous ymhellach, ac mae'n ychwanegu at ein hasedau Cam II, sef milciclib a foralumab. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol i ddod o hyd i ragor o atalyddion c-FLIP. Yna, byddwn yn ceisio datblygu'r mwyaf addawol o'r rhain yn gyffuriau newydd ar gyfer canserau, fel canser y fron, lle credir bod uwch-reoleiddio'r c-FLIP hwn yn bwysig o ran lledaeniad celloedd canser."

Yn ôl Dr Robert Clarke, o Sefydliad Gwyddorau Canser Prifysgol Manceinion: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous gan dîm yng Nghaerdydd sy'n arbenigo ym mecaneg rheoleiddio marwolaeth celloedd. Yn ôl pob golwg, mae'r cyffur maent wedi'i ddatblygu yn targedu gweithgarwch bôn-gelloedd canser, sy'n awgrymu y bydd yn atal canserau metastatig rhag dychwelyd ac y bydd yn ddefnyddiol wrth frwydro ymwrthiant i gyffuriau."

Meddai Dr Lee Campbell, Rheolwr Cyfathrebiadau Gwyddoniaeth a Phrosiectau Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru, sy'n ariannu'r astudiaeth yn rhannol: "Dyma ddatblygiad cyffrous, oherwydd credir mai bôn-gelloedd canser sy'n gyfrifol am fethiant llawer o driniaethau canser ac am ailymddangosiad canser, yn aml flynyddoedd lawer ar ôl y clefyd cychwynnol.

"Felly, mae gallu cael gwared ar fôn-gelloedd canser o'r corff yn rhoi'r cyfle i waredu clefyd ystyfnig a gweddilliol unwaith ac am byth. A ninnau'n elusen, rydym yn falch iawn o gael ein cysylltu â gwaith ymchwil arloesol o'r fath, sy'n torri tir newydd yma yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r cyfansoddion newydd hyn yn perfformio gyda chleifion."