Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth, gwrthdaro a theyrngaredd Wlster

Yn 2018, dyfarnwyd Cymrodoriaeth ar Ddechrau Gyrfa Ymddiriedolaeth Leverhulme tair blynedd i Dr Stephen Millar am brosiect newydd yn archwilio rôl caneuon teyrngarol yn ystod Helyntion Gogledd Iwerddon (1968-1998).

Gan adeiladu ar ei waith sefydledig ar wleidyddiaeth ddiwylliannol gweriniaetholdeb Gwyddelig (Millar, 2017, 2018, 2020) mae'r prosiect yn bwrw goleuni ar rôl caneuon wrth annog trais yn ystod rhyfel a chyfreithloni trais strwythurol yn ystod heddwch, gan archwilio eu gwreiddio mewn parafilitariaeth a gwrthdaro rhyng-gymunedol.

Mae'n archwilio pam mae cerddorion a chynulleidfaoedd yn parhau i ddefnyddio caneuon teyrngarol. Hefyd, yn sgil Brexit, sut mae caneuon o'r fath yn rhan o hiraeth ddiwylliannol am sawl gorffennol dychmygol groestoriadol, sy'n atseinio gyda chynnydd poblyddiaeth mewn rhannau eraill o'r byd.

Allbwn a gwaith ar y gweill

Cyhoeddwyd allbwn cyntaf y prosiect mewn erthygl yn 2021 yn Ethnomusicology Forum, o'r enw From Belfast to the Somme (and Back Again): Loyalist Paramilitaries, Political Song, and Reverberations of Violence.

Mae ymchwil barhaus Stephen ar ganeuon teyrngarol yn sail i lyfr newydd, Performing Paramilitarism: Ulster Loyalism and the Poetics of Violence.

Staff cysylltiedig