Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Astudio Cerddoriaeth a Diwylliant Ffrainc RMA

Logo Gymdeithas Gerddorol Frenhinol (RMA)
Logo Gymdeithas Gerddorol Frenhinol (RMA).

Trefnwyd Diwrnod Astudio Cerddoriaeth a Diwylliant Ffrainc i ddod ag ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â diddordeb sylfaenol yng ngherddoriaeth Ffrainc a'i diwylliant ynghyd.

Mae'r diwrnod astudio yma yn cynnig y cyfle i ddatblygu rhwydwaith o'r rheini sy'n gwneud ymchwil mewn meysydd tebyg ac annog diwylliant o gydweithio yn y genhedlaeth o ysgolheigion sy'n dechrau dod i'r amlwg.

Cofrestru

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod modd cofrestru bellach.

Cofrestrwch ar-lein trwy fynd i eventforce.

Manylion y digwyddiad

10 Mai 2024 rhwng 09:00 a 17:30
Neuadd Gyngerdd, Yr Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd

Mae'r diwrnod astudio yn agored i'r rheini sy'n astudio cerddoriaeth Ffrainc ar draws pob cyfnod ac rydym yn annog pob llwybr ymchwil ar gerddoriaeth i gymryd rhan, megis cerddolegwyr, perfformwyr, cyfansoddwyr, addysgwyr cerddoriaeth, organolegwyr ac ethnolegwyr cerddoriaeth, yn ogystal â'r rheini sy'n astudio cerddoriaeth mewn disgyblaethau eraill.

Yn y gynhadledd bydd papurau 20 munud o hyd gan fyfyrwyr ymchwil, ac yna 10 munud o drafodaeth. Bydd y cyfle hefyd i’r sawl fydd yn cymryd rhan i roi nodyn bywgraffyddol byr sy’n manylu ar eu diddordebau ymchwil er mwyn creu cysylltiadau defnyddiol yn y dyfodol.

Panel

Ar y cyd â Grŵp Ymchwil Cerddoriaeth Ffrainc Caerdydd, yn y gynhadledd hefyd bydd panel o academyddion hirsefydledig a fydd yn rhoi cipolwg ar eu profiadau amrywiol o ran ymchwilio i gerddoriaeth Ffrainc, megis ymweld ag archifdai a chyhoeddiadau. Wedyn bydd gan y sawl sy’n cymryd rhan y cyfle i ofyn cwestiynau am eu gyrfaoedd neu eu hymchwil.

Presenoldeb

Prif fwriad y digwyddiad hwn yw rhwydweithio, felly yn bennaf bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb. Os na allwch chi fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau na ellir eu hosgoi, bydd opsiwn i ymuno ar-lein ar Zoom. Fodd bynnag, bydd gofyn cofrestru hefyd er mwyn cymryd rhan ar-lein.

Lluniaeth

Bydd lluniaeth, gan gynnwys cinio, ar gael drwy gydol y dydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i drafod a rhwydweithio. Os oes gennych chi ofynion deietegol penodol, rhowch wybod i'r pwyllgor erbyn 10 Ebrill 2024 gan ebostio cardifffrenchmusic@gmail.com.

Hygyrchedd

Mae'r pwyllgor yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y Diwrnod Astudio, gan gynnwys y rheini sy'n niwroamrywiol, ag anableddau corfforol neu rwystrau sydd hwyrach yn amharu ar eu presenoldeb. Adeilad hygyrch yw’r Ysgol Cerddoriaeth, a gallwch chi ddefnyddio lifft i gyrraedd pob ystafell.

Os oes gennych chi ofynion penodol o ran hygyrchedd neu os bydd angen addasiadau er mwyn ichi allu bod yn bresennol, cysylltwch â'r pwyllgor gan ebostio cardifffrenchmusic@gmail.com.

Y Rhaglen

Trefnwyd Diwrnod Astudio Cerddoriaeth a Diwylliant Ffrainc i ddod ag ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â diddordeb sylfaenol yng ngherddoriaeth Ffrainc a'i diwylliant ynghyd.

Y Rhaglen (Print Bras)

Trefnwyd Diwrnod Astudio Cerddoriaeth a Diwylliant Ffrainc i ddod ag ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â diddordeb sylfaenol yng ngherddoriaeth Ffrainc a'i diwylliant ynghyd.

Y Rhaglen (Dyslecsia-gyfeillgar)

Trefnwyd Diwrnod Astudio Cerddoriaeth a Diwylliant Ffrainc i ddod ag ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â diddordeb sylfaenol yng ngherddoriaeth Ffrainc a'i diwylliant ynghyd.