Ewch i’r prif gynnwys

Mabwysiad byd-eang y Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg i ymarfer clinigol

Patient suffering with Dermatitis

Mae datblygu'r adnodd asesu clinigol sefydledig hwn yn arwain at fwy o gyrhaeddiad a chymwysiadau byd-eang, ac yn cynyddu ansawdd bywyd cyffredinol cleifion.

Ar lefel fyd-eang, gall cyflyrau dermatolegol achosi dioddefaint i'r claf ac ansawdd bywyd gwael. Yn y DU yn unig, mae cyflyrau croen megis ecsema, psoriasis a dermatitis atopig yn effeithio ar tua 60% o'r boblogaeth sy’n oedolion ar ryw adeg yn ystod eu hoes. Gall y cyflyrau hyn effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd, yn ogystal â lles cyffredinol cleifion.

Adnodd asesu clinigol yw’r Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg (DLQI), a ddatblygodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd drwy ymchwil a gyhoeddwyd ym 1994. Mae'r holiadur syml i'w ddefnyddio yn gofyn i gleifion ddisgrifio effaith eu clefyd croen ar wahanol agweddau ar eu hansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd yn ystod yr wythnos flaenorol. Cyn yr ymchwil hon, ni ddefnyddiwyd unrhyw ddull safonol i asesu effaith clefydau croen ar les cleifion.

Doctor filling in forms as they're sitting with a patient

Rhwng 2002 a 2005, datblygwyd y Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg (DLQI) ymhellach. Arweiniodd ymchwil yn ymwneud â bron i 2,000 o gleifion at gyhoeddi bandiau sgôr, gwnaethpwyd hyn er mwyn gwella’r defnydd a wnaed ohonynt - mae sgôr uwch na 10 yn nodi bod y clefyd yn cael effaith fawr ar ansawdd bywyd. Roedd y datblygiad arloesol hwn yn golygu y gellid defnyddio'r DLQI i sicrhau bod penderfyniadau a gwasanaethau clinigol yn gynyddol fwy addas, ac i asesu cyffuriau newydd ac i lywio triniaethau.

Ymchwil newydd sy'n gwella cyrhaeddiad byd-eang a chymhwysedd clinigol

Ers 2014 bu tîm o Brifysgol Caerdydd dan arweiniad yr Athro Andrew Finlay yn cynnal ymchwil helaeth ychwanegol. Roedd hyn er mwyn gwella’r defnydd o’r DLQI mewn lleoliadau clinigol, ehangu ei gyrhaeddiad byd-eang a chynyddu amrywiaeth y cymwysiadau clinigol, gan gynnwys mewn treialon clinigol ac astudiaethau datblygu cyffuriau.

Mireiniodd tîm y brifysgol y dehongliad o sgôr Isafswm Gwahaniaeth o ran Pwysigrwydd Clinigol (MCID) DLQI, a all bennu pa fath o ymateb sydd gan glaf i therapi neu ddangos angen i newid rheoli cleifion. Newidiodd y mireinio hwn yr MCID o 5 i 4, a oedd yn gwella dilysrwydd, dibynadwyedd a dehongliad newid y DLQI.

Nodwyd hefyd bod clinigwyr wedi bod yn defnyddio fersiynau electronig heb eu dilysu o'r DLQI, gan fod mesurau a adroddir gan gleifion yn cael eu gwneud fwyfwy ar ffurf electronig.

Mewn astudiaeth o gleifion o glinig i gleifion allanol dermatoleg ysbyty, dilysodd tîm y brifysgol gyflwyniad digidol a chwblhau'r DLQI ar iPads, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer monitro amser real o ansawdd bywyd a throsglwyddo data yn haws i gofnodion cleifion.

Skin condition

Cysylltu'r DLQI ag amcangyfrifon gwasanaethau iechyd

Mae amcangyfrifon gwasanaethau iechyd yn rhoi mesur o ddewis claf ar gyfer canlyniad penodol sy’n ymwneud ag iechyd. Yn flaenorol, nid oedd yn bosibl cyfrifo gwerthoedd gwasanaethau iechyd o'r DLQI. Yn lle hynny, roedd angen adnodd gwahanol, megis sgôr Ansawdd Bywyd Ewropeaidd-5 Dimensiwn (EQ-5D).

Datblygodd tîm y brifysgol ddull newydd o gyfrifo data EQ-5D a gwerthoedd gwasanaethau o sgorau DLQI, gan symleiddio'r broses ar gyfer clinigwyr a chleifion.

Mae'r dull newydd wedi'i ddilysu yn golygu y gellir mapio data DLQI ar fesurau gwasanaethau iechyd, y gellir eu defnyddio wedyn mewn dadansoddiadau economaidd, gan gynyddu gwerth data DLQI a gwella'r broses o nodi newidiadau ystyrlon yn ansawdd bywyd cleifion.

Psoriasis of the skin

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi mai’r holiadur DLQI “yw'r dull a ddefnyddir amlaf ar hyn o bryd ar gyfer gwerthuso ansawdd bywyd cleifion â gwahanol gyflyrau croen”. Bu i adolygiad systematig pellach ddilysu’r ffaith mai’r DLQI yw’r adnodd a ddefnyddir amlaf ar gyfer asesu ansawdd bywyd mewn cysylltiad â soriasis.

Canlyniadau allweddol

Mae'r DLQI bellach yn adnodd clinigol hanfodol ar gyfer asesu. Roedd cynnwys y DLQI mewn canllawiau cenedlaethol a rhyngwladol tra phwysig, yn ogystal â dechrau defnyddio fformat digidol ohono, yn golygu y gallai’r adnodd gael ei ddefnyddio’n ehangach ar draws sawl gwlad.

Ers 2014, mae'r DLQI wedi dod yn adnodd asesu a ddefnyddir yn helaeth yn rhyngwladol, gan fod o fudd i ystod eang o bobl gan gynnwys cleifion, clinigwyr a chwmnïau fferyllol. Adlewyrchir hyn yn y ffaith ei fod yn cael ei gynnwys mewn llawer o ganllawiau ledled y byd.

Ers 2014:

  • Mae'r DLQI wedi dod yn rhan o ganllawiau cenedlaethol ar gyfer ystod eang o gyflyrau dermatolegol mewn 31 yn rhagor o wledydd, gan ddod â chyfanswm y gwledydd sy'n ei ddefnyddio i 45. Mae gwledydd sydd â chanllawiau cenedlaethol sy'n argymell defnyddio’r DLQI yn cynnwys UDA, Seland Newydd, Tsieina, yr Almaen, Ffrainc, Brasil, Chile a Venezuela.
  • Mae 34 o gyfieithiadau pellach o'r DLQI wedi’u dilysu; mae nawr ar gael mewn 125 o ieithoedd. Mae wedi’i ddefnyddio mewn astudiaethau ymchwil a threialon clinigol mewn 62 o wledydd, gan gwmpasu dros 70 o glefydau.
  • Rhoddwyd 1601 o drwyddedau ar gyfer defnyddio’r DLQI, ac roedd 826 ohonynt at ddefnydd masnachol, gan gynhyrchu refeniw o dros £3.5 miliwn. Ers i Brifysgol Caerdydd ddilysu’r DLQI yn ei e-fformat yn 2017, rhoddwyd caniatâd i 314 o geisiadau o ran defnyddio’r DLQI yn ei e-fformat rhwng 2018 a 2020. Fel arfer, defnyddir trwyddedau a brynir gan gwmnïau fferyllol, ar gyfer treialon clinigol, gan gyfrannu at ddatblygu, yn llwyddiannus, driniaethau i drin cyflyrau dermatolegol. Mae hyn yn golygu bod y GIG a sefydliadau eraill nad ydynt yn gwneud elw, yn gallu gwneud defnydd helaeth ohono (a hynny’n rhad ac am ddim). Gall unrhyw glaf, nyrs neu feddyg ledled y byd hefyd ddefnyddio'r DLQI at ddibenion clinigol yn rhad ac am ddim.
  • Mae 44 o fesurau newydd wedi'u cyhoeddi sydd wedi'u dilysu mewn perthynas â’r DLQI, sy'n cwmpasu cyflyrau megis alopesia, dermatitis atopig, albinedd, a chanser y croen nad yw'n felanoma.
  • Cafodd sgôr y DLQI ei gynnwys mewn 15 o Arfarniadau Technoleg a Chrynodebau Tystiolaeth pellach gan NICE, ar gyfer cyflyrau dermatolegol megis dermatitis atopig, hidradenitis suppurativa, arthritis soriatig, hyperhidrosis a rosacea.

“Mae'r Athro Andrew Finlay a'i dîm wedi rhoi llais i'n cleifion i gyd, mewn ymgynghoriadau bob dydd. Mae hyn yn cyfrannu at ffordd newydd o ymarfer meddygaeth a dermatoleg, gan sicrhau bod y claf yn ganolog i’r cyfan a chan sicrhau ymgynghoriad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.”
Journal of the European Academy of Dermatology and Venereology, 2017, 31: 1247

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau pwysig