Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus (MPH) Caerdydd
MPH Dathlu 30 mlynedd o Droi Awch yn Arfer (1989 – 2019).
Gwnaeth Acheson ddiffinio iechyd cyhoeddus fel ‘y wyddor a’r grefft o atal clefydau, hwyhau bywyd a hybu iechyd drwy ymdrechion cyfundrefnol cymdeithas’. Drwy wasanaethau a gwaith ymchwil, mae iechyd cyhoeddus yn helpu i:
- Wella ansawdd a gwerth gwasanaethau gofal iechyd;
- Amddiffyn pobl rhag peryglon heintus ac amgylcheddol, sy’n amrywio o achosion a thrychinebau naturiol, i daclo’r newid yn yr hinsawdd, iechyd dynol ac iechyd y blaned;
- Atal clefydau cronig a hybu iechyd a lles drwy fynd i’r afael â ffactorau o ran ffordd o fyw, fel ymyriadau maeth, gweithgarwch corfforol ac ymddygiadol.
Gwnaeth Adroddiad Acheson, ynghyd ag argymhellion Siarter Ottawa arwain at greu gradd newydd: y Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus (MPH) yn 1989. Roedd yn ymateb i’r angen am hyfforddiant amlddisgyblaethol ymhlith amrywiaeth o weithwyr iechyd cyhoeddus. Cafodd yr MPH ei chreu i ddatblygu arweinwyr penigamp, ac mae llawer o’r rhain mewn rolau dylanwadol yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae myfyrwyr yr MPH yng Nghaerdydd yn dysgu gan arbenigwyr mewn gwaith ymchwil ac ymarfer iechyd cyhoeddus. Mae modiwlau annibynnol ar gael i unrhyw ymgeisydd cymwys. Gall israddedigion meddygol astudio modiwlau mewn Diogelu Iechyd a Gwella Iechyd ochr yn ochr â myfyrwyr yr MPH, fel rhan o’u Gradd Gynhwysol mewn Meddygaeth Poblogaeth.
Mae myfyrwyr yn dysgu mewn lleoliad amlddisgyblaethol. Mae’r holl bartneriaid allweddol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Llywodraeth Cymru ac Ysgolion Meddygaeth, Busnes, Peirianneg, Cyfraith, Gwleidyddiaeth a Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd mewn un ddinas. Mae Caerdydd yn eich galluogi i gael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn unrhyw ran o’r byd!
A ydych chi’n gynfyfyriwr o’r MPH?
Hoffem gysylltu â’n cynfyfyrwyr MPH a meithrin cydberthynas barhaus â phob un ohonoch. Treuliwch ychydig o amser yn ateb rhai cwestiynau.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 31 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 31
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.