Ewch i’r prif gynnwys

Ymddygiad gwahaniaethol yn ymwneud â’r Coronafeirws - 10/02/20

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym wedi clywed am achosion sy’n peri pryder gan unigolion, gan gynnwys rhai sy’n ystyried eu hunain yn bobl Tsieineaidd, ynghylch ymddygiad gwahaniaethol yn ymwneud â’r Coronafeirws.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i’n holl fyfyrwyr a staff.

Rydym yn mynd i’r afael o ddifrif ag unrhyw fath o aflonyddwch, trais neu gam-drin hiliol.  Caiff camau eu cymryd yn erbyn unrhyw un sy’n ymyrryd ag urddas unigolyn neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus neu sarhaus.

Rydym yn annog unrhyw fyfyrwyr neu staff sydd wedi cael profiad o ymddygiad annymunol neu wahaniaethol i ddweud wrth rywun o’r Brifysgol. Mae gennym dîm o staff sydd yma i helpu unrhyw un sydd wedi profi trais neu gamdriniaeth.