Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, am yr Adolygiad Annibynnol o Faterion Cydraddoldeb Hiliol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd - 25 Ionawr 2017

Datganiad yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, am yr Adolygiad Annibynnol o Faterion Cydraddoldeb Hiliol yn Ysgol MeddygaethPrifysgol Caerdydd.

Yn ei ymateb i'r adroddiad, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydw i'n hynod ddiolchgar i'r Athro Bhugra a'i banel am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr a thrylwyr.

"Pan ofynnodd y Brifysgol i'r Athro Bhugra gynnal adolygiad, roeddem am i banel o arbenigwyr annibynnol edrych ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd i wneud yn siŵr bod ein holl fyfyrwyr a'n staff yn gallu ffynnu yma beth bynnag fo'u cefndir.

"Er i'r adolygiad gael ei ysgogi gan ddigwyddiad oedd yn ymwneud â'n myfyrwyr meddygol, nid pwyntio bys i weld pwy oedd ar fai nac ailadrodd ymchwiliad y Brifysgol oedd y nod. Yn hytrach, roeddem am amlygu newidiadau pwysig fydd yn helpu i osgoi achosion o'r fath rhag digwydd eto yn y dyfodol.

"Fel Prifysgol, rydym yn derbyn argymhellion yr adroddiad ac eisoes wedi ymgymryd â nifer o gamau rhagweithiol i fynd i'r afael â nhw. Mae'n bwysig ein bod yn pwyso a mesur ac yn ymateb drwy lunio polisïau a gweithdrefnau priodol. Fodd bynnag, rydym yn derbyn yn llwyr bod angen i ni wneud rhagor.

"Rydw i'n croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod y llu o bolisïau a chynlluniau da sydd gan y Brifysgol eisoes ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth a bod eu hargymhellion yn ceisio gwella a chefnogi'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd.

"Braf hefyd oedd gweld yr adroddiad yn atgyfnerthu'r pwynt ynglŷn â sut mae myfyrwyr a staff yn teimlo eu bod yn gallu codi'r materion hyn.

"Mae ein neges yn glir: nid yw stereoteipio unrhyw unigolyn, neu grŵp o unigolion, mewn modd sarhaus yn dderbyniol. Mae Prifysgol Caerdydd yn ystyried materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth o ddifrif, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl weithgarwch."