Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad yr Athro Dinesh Bhugra am yr Adolygiad Annibynnol o Faterion Cydraddoldeb Hiliol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd - 25 Ionawr 2017

Datganiad yr Athro Dinesh Bhugra am yr Adolygiad Annibynnol o Faterion Cydraddoldeb Hiliol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Meddai'r Athro Dinesh Bhurga: "Gofynnodd Prifysgol Caerdydd i mi gadeirio panel a fyddai'n cynnal ymchwiliad ac yn cyflwyno argymhellion mewn ymateb i ddigwyddiad fu'n ymwneud â myfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd.

"Dylid canmol y Brifysgol am gymryd cam mor rhagweithiol ac am ei hymrwymiad at gynnal ymchwiliad annibynnol a bod yn agored a thryloyw. Mae wedi bod yn sefyllfa gymhleth ac rydym wedi cael ymateb teg ac addas gan yr Ysgol Meddygaeth a'r Brifysgol.

"Daeth i'r amlwg i ni wrth gynnal yr ymchwiliad bod y sefyllfa wedi achosi llawer iawn o straen ymhlith y myfyrwyr yn y flwyddyn o dan sylw. Dylai'r Brifysgol fynd ati ar unwaith i gyflwyno rhaglen sy'n gallu dod â'r rhai sydd wedi effeithio fwyaf gan y digwyddiad yn nes at ei gilydd.

"Er i'r Brifysgol a'r Ysgol Meddygaeth wneud ei gorau i ymateb i'r digwyddiad yn unol â'i gweithdrefnau sefydledig, mae ein hadroddiad yn amlygu nifer o faterion penodol a chyffredinol y bydd angen i'r Brifysgol eu hystyried a mynd i'r afael â nhw.

"Ein bwriad wrth gyflwyno'r argymhellion yw helpu'r Brifysgol i osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol a mynd i'r afael â'r materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ehangach a nodwyd.

"Mae'r ffordd hynod gadarnhaol y mae'r Brifysgol - ar bob lefel - wedi cydweithio â ni a'i hymrwymiad amlwg at gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi bod yn galonogol dros ben. Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad y Brifysgol at gymryd camau mewn ymateb i'n hargymhellion."