Ewch i’r prif gynnwys

Germaine Greer – Darlith Hadyn Ellis

22 Hydref, 2015

Mae’r Brifysgol wedi cysylltu â chynrychiolwyr Germaine Greer, a bydd y ddarlith yn cael ei chynnal, yn ôl y bwriad.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym wedi ymrwymo i ryddid barn a dadl agored.

"Mae ein digwyddiadau'n cynnwys siaradwyr sydd ag ystod o safbwyntiau, a phob un yn cael eu herio a'u dadlau'n drwyadl. Ni fydd y digwyddiad hwn yn ddim gwahanol.

"Mae ein hymrwymiad i'n staff a myfyrwyr LGBT+ mor gryf ag erioed, ac rydym yn cydnabod yn llawn yr holl fanteision i Brifysgol Caerdydd o ganlyniad i gael cymuned mor amrywiol.

"Rydym yn gweithio'n galed i roi lle cadarnhaol a chroesawgar i bobl LGBT+ ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydym yn ymgynghori gyda grwpiau myfyrwyr a staff i sicrhau y cynrychiolir barn pobl LGBT+ yn ein digwyddiadau.

"Ni fyddwn yn esgusodi unrhyw fath o sylwadau gwahaniaethol o dan unrhyw amgylchiadau."