Ewch i’r prif gynnwys

Pecyn Cymorth Cynnwys y Cyhoedd ym maes Effaith Ymchwil (PIRIT)

Public Involvement in Research Impact Toolkit

Mae cynnwys y cyhoedd yn llywio ymchwil yn gadarnhaol. Trwy rannu eu hamser a'u profiadau personol gydag ymchwilwyr, gall aelodau'r cyhoedd ddylanwadu ar ba ymchwil sy'n digwydd, sut mae'n cael ei chynnal, a sut mae'r canlyniadau'n cael eu rhannu.

Canllawiau yw Safonau'r DU at ddibenion Cynnwys y Cyhoedd a luniwyd i helpu i wella safon a chysondeb o ran cynnwys y cyhoedd ym maes ymchwil.

Maen nhw’n amlygu'r angen i asesu '[…] y newidiadau, y manteision a'r dysgu sy’n digwydd yn sgîl profiadau uniongyrchol cleifion, gofalwyr a'r cyhoedd.'  Eto i gyd, cydnabyddir bod bwlch rhwng offer pragmatig i gefnogi’r gwaith o gynllunio effaith ac adrodd yn unol â’r safonau.

Am PIRIT

Mae PIRIT yn set o offer pragmatig sy'n ceisio cefnogi ymchwilwyr sy'n gweithio gyda chyfranwyr cyhoeddus i:

  • gynllunio a chyfuno cynnwys y cyhoedd yn rhan o fyd ymchwil
  • olrhain cyfraniadau'r cyhoedd a'r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i'r ymchwil
  • adrodd am yr effaith yn unol â Safonau'r DU at ddibenion Cynnwys y Cyhoedd.

Rhestr Wirio o weithgareddau posibl sy’n ymwneud â chynnwys y cyhoedd a safonau perthnasol yw Offeryn Cynllunio PIRIT. Mae'r fformat yn dilyn y llwybr ymchwil.

Taenlen syml yw Offeryn Olrhain PIRIT sy’n cofnodi pryd a sut y cyfrannodd y cyhoedd, yr hyn yr oedd yn gobeithio dylanwadu arno, beth a oedd wedi newid (os o gwbl), pam bod hyn yn bwysig, a’r safonau cysylltiedig.

Gellir defnyddio'r offer hyn ar wahân neu gyda’i gilydd, ac ar y cyd â fframweithiau asesu eraill a gyhoeddwyd ym maes cynnwys y cyhoedd yn ogystal ag offer adrodd eraill.

Dilynwch ni ar Twitter i gael yr holl ddiweddariadau PIRIT.

Ar gyfer pwy mae e?

Datblygwyd PIRIT ar y cyd gan gyfranwyr y cyhoedd ac aelodau staff i'w ddefnyddio yng Nghanolfan Ymchwil Marie Curie a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru. Lluniwyd yr offer i ymchwilwyr a chyfranwyr y cyhoedd berchen arnyn nhw ar y cyd, a hynny er mwyn annog trafodaeth, gwaith ar y cyd a dull tryloyw o gynllunio i gynnwys y cyhoedd ac adrodd ar yr effaith. Cadarnhawyd gwerth a pherthnasedd PIRIT drwy gynnal profion mewnol. Oherwydd diddordeb sylweddol gan y gymuned ymchwil, rydyn ni wedi rhoi’r pecyn cymorth ar gael i’w ddefnyddio’n ehangach am ddim dan amodau penodol.

Sut i'w ddefnyddio

Gallwch lawrlwytho PIRIT a dechrau ei ddefnyddio heddiw, yn rhad ac am ddim. Mae wedi'i gynllunio i fod yn addasadwy o dan amodau penodol Gwybodaeth am amodau'r drwydded, ynghyd ag awgrymiadau ac awgrymiadau ar sut i ddefnyddio'r offer sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn cymorth.

Llenwi ffurflen ar-lein a lawrlwytho PIRIT

Wrth lawrlwytho'r pecyn cymorth, gofynnir i chi am ychydig o wybodaeth sylfaenol i'n helpu i ddeall nodweddion defnyddwyr PIRIT. Os ydych yn hapus i gyflenwi manylion cyswllt, byddwn yn eu defnyddio i roi gwybod i chi am gyfleoedd i roi adborth ar ddefnydd PIRIT, ac o fersiynau wedi'u diweddaru os/pan gânt eu cyhoeddi.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae gennych ddiddordeb mewn cydweithio, neu os oes gennych adborth ar dudalen we PIRIT, cysylltwch â ni.

Marie Curie CCC