Ewch i’r prif gynnwys

Tiwtora Personol

Mwy am y pwnc hwn

Mae’r rôl tiwtor personol yn gyfrifoldeb allweddol ar bob aelod o staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r system tiwtor personol yn rhoi cyswllt academaidd uniongyrchol i bob myfyriwr yn ei ddisgyblaeth, ac yn galluogi staff addysgu i ymgysylltu â myfyrwyr i

  • roi cyngor ac adborth adeiladol ar gynnydd academaidd
  • cynnig cymorth bugeiliol a chyfeirio myfyrwyr at ffynonellau cymorth arbenigol lle y bo’n briodol
  • hyrwyddo arfer proffesiynol
  • trafod cyflogadwyedd ac uchelgeisiau gyrfaol

Mae’r pwnc hwn yn cynnig enghreifftiau o arfer da ar gyfer yr amrywiaeth o ddulliau tiwtora personol sy’n cael eu defnyddio yn y brifysgol. Gall adnoddau a gwybodaeth bellach roi cipolwg ar y ffyrdd y gall tiwtora personol effeithiol helpu myfyrwyr i fyfyrio ar eu datblygiad personol, tyfu fel dysgwyr annibynnol, a meithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu potensial yn eu hastudiaethau yn y brifysgol a thu hwnt.


Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.