Ewch i’r prif gynnwys

Dangos tystiolaeth o ddysgu

Mwy am y pwnc hwn

Mae dangos tystiolaeth o ddysgu yn helpu myfyrwyr i gasglu, catalogio a chyflwyno sylfaen dystiolaeth berthnasol i'w dysgu.  Mae nifer o ffactorau  sy'n gwneud hyn yn fwyfwy dymunol: i) mae cadw cofnod o ddatblygiad parhaus sy'n cynnwys dyddiadur personol myfyriol (yn enwedig yn erbyn amcanion a bennwyd), yn hanfodol mewn cyrff proffesiynol, ac yn cael ei ystyried yn arfer dda i unrhyw berson proffesiynol; ii) mae'r gallu i gynnig hunan-dystiolaeth a disgrifio dysgu personol, yn hytrach na chanolbwyntio ar ardystiad allanol yn unig, yn sgil defnyddiol i gyflogwyr ac yn gwneud myfyrwyr yn fwy cystadleuol; a iii) mae nifer o blatfformau cwmwl ar y we yn golygu bod yr offer sydd ei angen arnom ar gael yn rhwydd.

Mae'r pwnc hwn yn edrych ar

  • enghreifftiau o sut y gall myfyrwyr lunio a chreu e-bortffolio
  • sut i ddefnyddio platfformau poblogaidd a'u cludadwyedd
  • gwahanol ffyrdd o sut y gall ymarfer o'r fath fod yn rhan o'r cwricwlwm
  • gwella ar gyfleoedd myfyrwyr i fyfyrio
  • creu asesiadau sy'n hybu myfyrwyr i ddysgu a dangos tystiolaeth o'u dysgu


Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.