Meincnodi eich modiwlau
Mwy am y pwnc hwn
Mae'r pwnc hwn yn canolbwyntio ar enghreifftiau o feincnodi modiwlau i feini prawf sector neu feini prawf proffesiynol, megis QAA, UKPSF, Cymdeithasau Dysgedig a Chyrff Rheoleiddio Proffesiynol. Ar gyfer meincnodi, fel arfer mae angen alinio canlyniadau cwrs a chanlyniadau allweddol gyda disgrifyddion allweddol a gyhoeddwyd gan y cyrff rheoleiddio. Felly, mae'r thema hon yn canolbwyntio ar ddulliau mae pobl wedi’u defnyddio i sicrhau eu bod yn gyson wrth addysgu gyda’r gofynion hyn. Gall aliniad ddigwydd yn y cam dylunio ar gyfer cyrsiau, ond mae'n bosibl hefyd y bydd angen addasu cyrsiau i fodloni meini prawf allweddol. Ceir enghreifftiau o aliniad rhagweithiol ac adweithiol yma, yn ogystal â chanllawiau generig ar gyfer sut mae meincnodi cyrsiau gan y rhai sydd wedi cael profiad o’r broses.
Cyfrannu at yr Hwb Dysgu
Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.