Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen ysgolheigion gwadd

Rydym yn croesawu nifer fach o gymrodyr ymweliadol sy’n gweithio mewn meysydd sy’n cyd-fynd yn agos â diddordebau ymchwil yr Ysgol.

Maent fel arfer yn academyddion blaenllaw a phrofiadol ar gyfnod sabothol neu absenoldeb ymchwil o’u sefydliadau cartref. Gall cymrodyr ymweliadol ddod am unrhyw gyfnod rhwng un a chwe mis, ond gellir trefnu ymweliadau hirach o dan amgylchiadau eithriadol.

Beth rydym yn ei gynnig

  • Cyfle i gyflwyno papur ymchwil mewn seminar
  • Cyfleoedd i archwilio modiwlau (gan gynnwys darlithoedd a seminarau) sy’n gysylltiedig â’ch maes ymchwil
  • Cyfleoedd i fynd i seminarau doethurol a’n cyfres o seminarau
  • Mynediad at holl gyfleusterau Llyfrgell y Brifysgol, gan gynnwys hawliau benthyca
  • Mynediad at rwydwaith TG y Brifysgol a gweithfannau mynediad agored
  • Cymorth gydag anghenion TG
  • Cyfleoedd i fynd i gynadleddau neu ysgolion haf a gynigir gan Brifysgol Caerdydd yn ystod eich ymweliad (bydd angen i chi dalu’r ffi gofrestru lawn ar gyfer y digwyddiadau hyn)
  • Cyfleoedd i fynd i fodiwlau israddedig neu ôl-raddedig a addysgir (meistr) penodol a gynigir gan yr Ysgol.

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan y Cyfarwyddwr Ymchwil a’u cymeradwyo gan ein tîm o uwch-reolwyr dair gwaith y flwyddyn, gyda dyddiadau cau ar 30 Ebrill, 31 Awst a 30 Tachwedd. Byddwch yn cael ateb o fewn mis ar ôl cyflwyno eich cais.

I wneud cais am le ar y rhaglen, rhaid i ymgeiswyr anfon y canlynol atom drwy ebost:

  • Llythyr eglurhaol yn cyflwyno eich hun, gan nodi sut mae eich gwaith yn cyd-fynd â’n diddordebau ymchwil, unrhyw gysylltiadau presennol ag ymchwil neu staff yn yr Ysgol, a’r amserlen arfaethedig ar gyfer eich ymweliad.
  • Cynnig bras yn amlinellu eich cynllun ar gyfer yr ymchwil y byddech yn ei gwneud yn ystod eich ymweliad (hyd at 1,000 o eiriau);
  • Curriculum vitae.

Wrth dderbyn ysgolheigion gwadd, bydd rhaid i ni fod yn hyderus y byddwch yn:

  • Gallu cyflawni eich amcanion fel y’u nodir yn y cynllun ymchwil;
  • Gwneud cyfraniad cadarnhaol at ein diwylliant ymchwil cyffredinol drwy gael trafodaethau creadigol a chyfnewid syniadau gydag aelodau staff ac ymchwilwyr ôl-raddedig mewn amryw fforymau cyhoeddus (e.e. seminarau ymchwil), neu drwy drefniadau unigol a gynllunnir ymlaen llaw;
  • Cyfrannu at ein rhaglenni seminarau ymchwil, lle bo modd a lle bo’n ddymunol, drwy roi cyflwyniad o’ch gwaith ymchwil;
  • Rhoi adborth a chyngor, lle bo’n briodol a thrwy wahoddiad gan staff, i unigolion neu grwpiau ynghylch prosiectau ymchwil parhaus o fewn yr Ysgol;
  • Paratoi adroddiad byr ar eich profiad a’ch llwyddiannau yn ystod eich cyfnod gyda ni.
  • Os ydych yn bwriadu ariannu eich ymweliad drwy ERASMUS, rhaid i gytundeb fod ar waith eisoes rhyngom ni a’ch adran gartref cyn i chi gyrraedd.

Dylai ceisiadau ddangos:

  • Hanes amlwg o weithgarwch academaidd parhaus;
  • Pa mor berthnasol yw’r gwaith arfaethedig i broffil yr Ysgol;
  • Cynllun ymchwil trylwyr a realistig ar gyfer cyfnod yr ymweliad arfaethedig.

Cysylltu â ni

Ms Sarah Bruford

School Secretary