Ewch i’r prif gynnwys

Hanfodion gofal iechyd meddwl mewn ymarfer nyrsio

Nod y prosiect hwn yw datblygu dealltwriaeth ddiwylliannol o'r gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng safbwyntiau myfyrwyr nyrsio israddedig ar hanfodion gofal iechyd meddwl mewn ymarfer nyrsio.

Bydd yr astudiaeth ansoddol gymharol hon, gan ddefnyddio grwpiau ffocws, yn gwneud cymariaethau rhwng profiadau myfyrwyr nyrsio a samplwyd yn bwrpasol yng Nghymru, y DU ac yn Aotearoa Seland Newydd. Mae hyfforddiant nyrsio israddedig yn Aotearoa yn defnyddio dull cynhwysfawr sy'n cynnwys elfennau ar iechyd meddwl mewn gofal nyrsio tra bod y DU yn cynnig addysgu a hyfforddiant nyrsio iechyd meddwl israddedig arbenigol. Bydd y fframwaith damcaniaethol sy'n llywio'r ymchwil hwn yn cynnwys cyfaniaeth, theori systemau a dulliau cymdeithasol-ecolegol o ymdrin â gofal iechyd.

Yr amcanion yw deall sut mae myfyrwyr nyrsio sy’n dod i gysylltiad â gwahanol fodelau addysg nyrsio yn llunio eu hunaniaeth fel nyrsys, a pha hanfodion gofal iechyd meddwl mewn ymarfer nyrsio sy’n mynd y tu hwnt i gyd-destunau lleol neu sy’n benodol iddynt. Bydd y canfyddiadau’n sail i raglen ymchwil a fydd â goblygiadau pwysig ar gyfer addysg nyrsio a allai effeithio ar ofal nyrsio iechyd meddwl mewn lleoliadau lleol a rhyngwladol.

Cyllid

Ariennir y prosiectau hyn gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato.

Prif ymchwilydd

Thema’r ymchwil