Ewch i’r prif gynnwys

COMSTIG: Motor Cortex Magnetic Stimulation during Gait

Mae cerdded yn gofyn am gydgysylltu rhwng llawer o gyhyrau. Cynhyrchir y cydgysylltu hwn o fewn rhwydweithiau o niwronau yn y cord asgwrn cefn.

Mae'r rhwydweithiau hyn yn derbyn gwybodaeth gan yr ymennydd, ac yn derbyn gwybodaeth synhwyraidd sy'n cael ei chasglu gan gyhyrau, cymalau a chroen. Mae'r rhwydweithiau o niwronau yn y cord asgwrn cefn yn cyfuno'r wybodaeth hon, ac yn anfon signalau allan i gyhyrau i gynhyrchu symudiad cydgysylltiedig.

Os oes gan berson anhwylder symud, anaf, neu os yw mewn poen, mae'n effeithio ar y ffordd y maent yn cerdded. Gwyddom fod gweithgarwch cyhyrau yn newid. Ond a yw hyn oherwydd bod yr ymennydd yn anfon gwahanol signalau i lawr i'r cord asgwrn cefn? Neu a yw'r ymennydd yn anfon yr un wybodaeth, ond mae'n cael ei brosesu'n wahanol gan rwydweithiau niwronau?

Sut mae'r prosiect hwn yn helpu?

Yma, rydym yn dwyn ynghyd niwrowyddonydd, gwyddonydd symud a pheirianydd i ddatblygu system a fydd yn caniatáu i symbyliad magnetig trawscranaidd gael ei gyflwyno i ymennydd unigolyn tra'u bod yn cerdded ar felin droed. Byddwn yn profi'r system hon i sicrhau bod yr ysgogiad yn cael ei gyflwyno i'r un rhan o'r ymennydd bob tro.

Beth yw'r canlyniadau?

Bydd y system hon yn gadael inni edrych ar sut mae'r ymennydd yn cyfrannu at weithgarwch cyhyrau wrth gerdded mewn unigolion iach, ac unigolion ag anhwylder symud, anaf neu boen.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan Wellcome Trust.

Ymchwilydd arweiniol

Dr Jennifer Davies

Dr Jennifer Davies

Cyfarwyddwr Llywodraethu Ymwchwil / Uwch-Ddarlithydd

Email
daviesj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 88581

Thema ymchwil

Physiotherapist works with patient on cardiorespiratory equipment

Optimeiddio iechyd trwy weithgarwch, ffyrdd o fyw a thechnoleg

Rydym yn cynnal ymchwil cymhwysol sy'n ceisio galluogi a hyrwyddo byw iach i'r rhai sy'n dioddef amrywiaeth o gyflyrau, afiechydon ac anafiadau acíwt a chronig.